Yn Cyflwyno Anrhegion Newydd OTW ar gyfer Aelodau Hir-Dymor

Yn ein rali aelodaeth Hydref diwethaf, wnaethom ni cyhoeddi yr oeddem yn gweithio ar ffordd newydd i ddathlu’r cefnogyddion fwyaf ffyddlon yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy. Rydym yn awr yn hapus i rhannu gydach chi anrhegion newydd anghynhwysol rydym wedi dylunio i ddathlu aelodath dilynol o dair, pum a deg mlynedd!

Bydd pawb sydd wedi bod yn aelod am y tair mlynedd diwethef erbyn diwedd 2020yn awr yn gymwys i dderbyn llyfrnod OTW newydd sydd wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer y achlysur.

Llyfrnod gyda'r ysgrifiad; "3-year member" (aelod 3-mlynedd) a logo yr OTW.
(dewiswch y llun i ehangu)

Am ein aelodau pum mlynedd, rydym wedi paratoi sticer prydferth a all fynd ar nifer o arwynebau, o boteli dŵr i gliniaduron. Os rydych wedi bod yn aelod am bum mlynedd, rydych yn gymwys i dderbyn y sticer a’r llyfrnod!

Sticer gyda'r ysgrifiad "5-year member of the Organization for Transformative Works" (Aelod 5-mlynedd y Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) , a logo yr OTW yn y canol.
(dewiswch y llun i ehangu)

Ac yn olaf, i farcio deg mlynedd o aelodaeth, mae gennyn ni magnet sy’n berffaith ar gyfer eich oergell neu ynrchyw cwpwrdd metal. Wrth gwrs, mae unrhyw un sydd wedi bod yn aelod am gymaint o amser gallu derbyn y tair anrheg newydd ar yr un pryd!

Magnet gyda'r arysgrifiad "Member of the Organization for Transformative Works for 10 years" (Aelod o'r OTW am 10 mlynedd) a logo yr OTW
(dewiswch y llun i ehangu)

Byddym yn dechrau anfon yr anrhegion rhain allan i bawb a oedd yn gymwys erbyn diwedd 2020 dechrau blwyddyn nesaf, ac wedyn unwaith y blwyddyn ar ôl hynny. I dderbyn eich anrhegion, gyd mae rhaid i chi ei wneud yw cadarnhau eich cyfeiriad! Pan rydych yn ymwys am anrheg, fyddym yn anfon ebost yn gofyn i chi gadarnhau eich gwybodaeth postio, felly cadwch llygaid ar eich mewnflwch! (Nodwch os rydych chi wedi optio allan o dderbyn ebyst o’r OTW, efallai na fyddech yn derbyn yr ebost na’ch anrheg. Cysylltwch â Ddatblygaeth ac Aelodaeth os mae gennoch chi holiadau.)

Mae gwaith yr OTW wedi’i wneud yn bosib gan eich cyfranniadau, ac rydym yn gwerthfawrogi pob un o’n aelodau, os rydych wedi cyfrannu unwaith yn unig, neu os rydych chi wedi bod yn ein cefnogi ers y dechrau. Os hoffech dod yn aelod, gyd mae rhaid i chi ei wneud yw dewis “Yes” (Ydw) mewn ateb i’r holiad “Do you want to be an OTW member? ($10 minimum donation)” (A hoffech bod yn aelod o’r OTW? (cyfraniad o leiaf $10 (UD) ) ar y ffurflen cyfrannu pan rydych yn rhoi cyfranniad o $10 (UD) neu fwy. Ar wahân i anrhegion dathlu i ddangos ein gwerthfawrogrwydd, mae aelodaeth yr OTW hefyd yn eich gwneud yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau ar gyfer y Bwrdd Cyfarwyddyddion yr OTW! Os nad ydych yn siwr faint mor hir rydych wedi bod yn aelod neu os mae gennych chi unrhyw holiadau arall, cysylltwch â Ddatblygaeth ac Aelodaeth.


Mae’r OTW yn mudiad rhiant ddi-elw o sawl brosiect, yn cynnwys AO3, Ffanllên, Drysau Agored, TWC, ac hefyd Eiriolaeth Gyfreithiol yr OTW. Rydym yn fudiad sy’n cael ei rhedeg gan ffaniau a’i chefnogi gan cyfrannydd, gyda staff sy’n gwbl gwirfoddoladwy. Dysgwch mwy amdanom ar wefan yr OTW. I ddysgu mwy am ein tîm o gyfieithydd gwirfoddoladwy, gwelwch y dudalen Gyfieithu.

Announcement

Comments are closed.