Rali Ebrill 2021: Diolch am Eich Cymorth

Nawr mae rali aelodaeth Ebrill yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) wedi gorffen, hoffem ddiolch pawb a wnaeth cymryd rhan. Rydym mor ddiolchgar ac mor syfrdanol i ddweud yn ystod y rali, fe godem $264,918.85 (UD) o 9,110 o gyfrannyddion o 84 o wledydd, wedi rhagori ein targed o $50,000 (UD) yn llwyr. Hefyd, fe gynyddodd ein haelodaeth i 16,842. Rydych chi yn anghredadwy: diolch!

Fe hoffem roi diolch yn benodol i’n haelodau OTW. Yn ystod y rali hon, fe wnaeth 4,348 o gyfranyddion dewis aelodaeth OTW. Diolch am eich cyfranniadau, blwyddyn ar ôl flwyddyn. Hebddoch chi, ni allem ni ariannu ein prosiectau: yn wir, chi yw’r creigwely caiff yr OTW ei hadeiladu ar. I ddangos ein gwerthfawrogiad, mae gennym ni rhaglen gwobrau aelodaeth. Ar ôl tair, pump a ddeg blwyddyn o aelodaeth OTW, bydd aelodau yn gymwys i dderbyn anrhegion allgynhwysol! Ac wrth gwrs, ein haelodau yw’r rheini sy’n pleidleisio i’n Bwrdd Llywodraethydd. Bydd fwy o newyddion ar ein hetholiadau gerllaw yn cael eu cyflwyno’n fuan.

Ni fase’r rali hon yn bosib heb bob un o’n gwirfoddolyddion, a weithiodd mor galed i wneud yn siwr fe wnaeth popeth rhedeg yn esmwyth. Diolch i bawb am eich help! Fe hoffem hefyd estyn ein diolchgarwch i bawb a wnaeth siarad, twîtio, neu bostio amdan y rali. Wnaeth eich cymorth wir wneud gwahaniaeth. Diolch o galon!

Ac yn olaf: mae’r rali hon wedi gorffen, ond gallwch gwneud cyfraniad ac ymuno â’r OTW trwy gydol y flwyddyn. Mae gennych chi tan y 30ain o Fehefin 2021 i ddod yn aelod mewn amser i fod yn gymwys i bleidleisio yn ein hetholiad nesaf yn Awst!


Mae’r OTW yn fudiad rhiant ddi-elw o sawl brosiect, yn cynnwys AO3, Ffanllên, Drysau Agored, TWC, a hefyd Eiriolaeth Gyfreithiol yr OTW. Rydym yn fudiad sy’n cael ei rhedeg gan ffaniau a’i chefnogi gan gyfrannydd, gyda staff sy’n gwbl gwirfoddoladwy. Dysgwch mwy amdanom ar wefan yr OTW. I ddysgu mwy am ein tîm o gyfieithydd gwirfoddoladwy, gwelwch y dudalen Gyfieithu.

Announcement

Comments are closed.