Rali Aelodaeth Hydref 2022: Dathlu Ein Meini Prawf

Mae hi’r cyfnod yna o’r flwyddyn eto: mae’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) yn dal ein rali aelodaeth Hydref, a mi fyddwn ni’n gwerthfawrogi eich cefnogaeth! Mae’r OTW a’n prosiectau 100% wedi eu cynnal gan wirfoddolyddion a wedi eu hariannu gan eich roddiadau. Mae pob doler sy’n cael ei godi yn mynd tuag at gynnal ein gweinyddion, cefnogi ein gwaith, a helpu ein nôd i amddiffyn a siarad más dros ffanweithiau a ffanddiwilliannau. Edrychwch ar ein erthygl cyllid mwyaf diweddar am fwy o wybodaeth ar fel mae ein arian yn cael ei wario.

Ar ben cefnogi ein gwaith, mae rhoddion dros fain penodol hefyd yn gymwys am rhai anrhegion diolch o’r OTW! Gallwch darganfod ystad llawn o anrhegion sydd ar gael ar ein tudalen rhoddion ond fe ddangosem ni rhai o’r rhai gorau man hun.

  • Mae’r Archive Of Our Own – AO3 (Archif Ein Hunain) nawr yn tair at ddeg blwydd oed – yn digon hen i gael cyfrif ei hun ar AO3! I ddathlu hynny, mae gennyn bathodynnau cylchwyl 13 newydd ar gael.
  • Efalle wnaethoch chi hefyd sylwi ar ein ddathliadau mis diwethaf pan drodd yr OTW ei hyn yn bymtheg. Mae hefyd gennym ni magnetau i ddathlu’r achlysur! Mae rhain wedi eu sypio a sticeri yn dathlu’r ddau cylchwyliau. Mae’r eitemau cylchwyl i gyd yn rhan o gyfres cyfyngedig, felly os wyt ti’n hoffi eu edrychiad, ‘wna’n siwr i gael rhai chi tra box nhw dal yma!
  • Hoffwn ni hefyd sôn am y cardiau chwarae torfaeg teyrnas daeth mas ym mis Ebrill ag sydd wedi profi i fod yn boblogaeth iawn hefo’n rhoddyddion. Mae pob cerdyn yn cynnwys celf air unigryw yn dangos y fath o dermau ffanyddol gall cael eu darganfod yn nhagiau’r AO3. Mae’r gwrthrych yma ar gael i nhw sy’n rhoi $100 (UD) neu fwy.

Os oes gennych chi diddordeb yn yr anrhegion diolch yma ond methu wneud rhoddiad o’r maint yma ar un pryd, paid becso! Mae gennym ni datrysiad. Gallech chi sefydlu rhoddiad ailadroddus am main llai, a llenwi’r ffurflen yn amser eich derbynneb rhoddiad i adael i’n tîm Datblygiad ac Aelodaeth wybod pa anrheg hoffech chi arbed amdano. Osodwn nhw’r anrheg i’r ochr a’i danfon atoch to pan rydych wedi cyrraedd y cyfanswm sydd angen am eich anrheg dewisadwy.

Y budd mawr arall dros rhoi i’r OTW yw fod unrhyw rhoddiad o $10 (UD) neu fwy yn eich wneud chi’n gymwys am etholiadau blwyddyn nesaf am y Fwrdd Llywodraethwyr sy’n oruwchwylio holl weithredau’r OTW. Gallech chi darllen mwy am ein proses etholiadol ar wefan etholiadau’r OTW. Os hoffech chi cael siawns o bleidleisio yn ye etholiad nesaf ym mis Awst 2023, gallwch chi ddod yn aelod heddiw gan wneud rhoddiad sengl o $10 (UD) neu mwy a dewis yr opsiwn “become a member” (dod yn aelod) ar y ffurflen rhoddiad. Bydd aelodaeth yn para am un flwyddyn calendr o dyddiad rich rhoddiad gymwysol.

Os na allwch chi rhoi i’r OTW y tro yma, mae hynny’n hollol iawn! Ac os oes gennych chi foment yn sbâr, bydden ni’n gwerthfawrogi eich help i rhannu’r newyddion o’r rali aelodaeth yma gydag eraill. Fel yr arfer, rydym ni’n diolchgar iawn am popeth rydych yn eu gwneud i gefnogi’r OTW a’i phrosiectau amrywiol. Diolch am fod yn rhan o’n cymuned!


Mae’r OTW yn mudiad rhiant ddi-elw o sawl brosiect, yn cynnwys AO3, Ffanllên, Drysau Agored, TWC, ac hefyd Eiriolaeth Gyfreithiol yr OTW. Rydym yn fudiad sy’n cael ei rhedeg gan ffaniau a’i chefnogi gan cyfrannydd, gyda staff sy’n gwbl gwirfoddoladwy. Dysgwch mwy amdanom ar wefan yr OTW. I ddysgu mwy am ein tîm o gyfieithydd gwirfoddoladwy, gwelwch y dudalen Gyfieithu.

Event

Comments are closed.