
Caiff yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) ei chynllunio, dylunio, a’i hadeiladu gan ffaniau. Rydym yn cael ein cefnogi gan haelioni ariannol ein aelodau. Yr Ebrill hon, wrth i ni lansio ein rali aelodaeth dwy-flynyddol, hoffem esbonio rhai o’r buddiannau o aelodaeth OTW, sydd ar gael i’r rheini sy’n rhoi cyfranniadau o $10 (UD) neu fwy; ac hefyd disgrifio rhai o’r ffurf eraill rydym yn rhannu ein gwerthfawrogiad gyda’n cyfrannyddion.
Rydym yn deall efallai i lawer o’n ymwelyddion, ni fydd hi’n bosib cyfrannu at yr OTW trwy ystod y rali hon; a hoffem wneud yn glir bod pob aelod o’n cymuned yn werthfawr, naill os mae eich cyfraniad yn ariannol, neu’n dod o oriau gwaith gwirfoddoladwy, creadigol, creu erthyglau wici, canmol neu sylwadau. Mae pob un ohonych yn gwneud yr OTW fel y mae, ac rydym yn ddiolchgar i bob un ohonych.
I’r rhai sydd a’r gallu i gyfranni, mae’r buddiannau yn dechrau o ddim ond $10 (UD). Mae pob cyfranniad unol amser o $10 (UD) neu’n uwch yn rhoi hawl i’r cyfrannydd i ddod yn aelod o’r OTW ar gyfer y flwyddyn calendrol nesaf. Mae aelodau’r OTW gyda’r hawl i bleidleisio yn ein hetholiadau blynyddol ar gyfer Bwrdd Llywodraethydd yr OTW, y corff sy’n goruchwylio actifedd a chyfeiriad strategol yr OTW. Caiff yr etholiadau nesaf ei ddal ym mis Awst y flwyddyn yma. Gallwch ddarganfod fwy am y broses etholiadau ar ein gwefan etholiadau.
Mae aelodau OTW hefyd yn derbyn eicon cyfryngau cymdeithasol unigryw, a allent ddefnyddio ar ba bynnag wefan a hoffent; ac rydym allu gwobrwyo cyfranyddion hir-dymor gydag anrhegion i farcio tair, pump neu deg blwyddyn o aelodaeth barhaol. Gwelwch y post lansio i ddarganfod mwy am yr anrhegion unigryw rhain.
Fel pob rali cyn, mae gennym ni gymysg o anrhegion ar gael i’r rhai sy’n cyfrannu cyfansymiau penodol i’r OTW. Y rali hon, rydym yn hapus i wneud dwy anrheg newydd ar gael, a allwch ddewis gyda chyfranniad o $40 (UD) neu fwy, a hefyd pecyn unigryw o gerdiau chwarae. Mae pob cerdyn yn dangos term ffanyddol o’r fath efallai fe weloch chi yn nhagiau’r “Archive of Our Own – AO3” (Archif Ein Hun). Gobeithiem bydd, yn ogystal â chwarae gemau cerdyn gyda nhw, gallwch hefyd ei defnyddio i greu heriau creadigol ar y pryd gyda ffrindiau neu ar gyfer eich hun. Rydym yn edrych ymlaen at weld beth rydych yn ei greu! Mae’r pecyn cerdiau ar gael i gyfranyddion sy’n rhoi $100 (UD) neu fwy. Mae fwy o wybodaeth ar hyn a’n hanrhegion diolchgarwch arall ar gael ar ein tudalen gyfrannu.
Os nad yw’r cyfanswm hynny yn bosib i chi, paid â phoeni. Gallwch defnyddio sawl cyfraniad cylchol fach i gyrrhaedd y swm seiliedig. Gwelwch ein dydalen cyfrannu cylchol i gysodi cyfraniad ar gyfer pa bynnag amledd a phris a allwch ei wneud. Byddent wedyn yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru am yr anrheg diolchgarwch a hoffech yn eich derbyneb cyfrannu. Caiff yr anrheg ei rhoi i’r ochr, ac unwaith rydych yn cyrraedd y lefel penodol, bydd eich anrheg yn cael ei hanfon i chi.
Os rydych yn Unol Daleithiau America, ble mae’r OTW yn sefydliad di-elw cofrestredig, efallai byddech hefyd gallu cynyddu eich cyfranniad heb unrhyw gost ychwanegol i chi gyda chynllun rhoi cyfatebol eich cyflogwr! Siaradwch â’ch adran Adnoddau Dynol i weld os mae hyn yn rhywbeth mae eich cyflogydd yn cynnig.
Gallwch ddarganfod mwy am sut mae cyfranniadau hanesyddol i’r OTW wedi’i wario gan weld ein ein post cyllideb. Ac unwaith eto, os rydych allu cyfrannu, derbynniwch ein diolchgarwch a chliciwch fama i ymweld â’n tudalen gefnogi.
Mae’r OTW yn mudiad rhiant ddi-elw o sawl brosiect, yn cynnwys AO3, Ffanllên, Drysau Agored, TWC, ac hefyd Eiriolaeth Gyfreithiol yr OTW. Rydym yn fudiad sy’n cael ei rhedeg gan ffaniau a’i chefnogi gan cyfrannydd, gyda staff sy’n gwbl gwirfoddoladwy. Dysgwch mwy amdanom ar wefan yr OTW. I ddysgu mwy am ein tîm o gyfieithydd gwirfoddoladwy, gwelwch y dudalen Gyfieithu.