
Caiff yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) ei sefydlu gan ffaniau ar gyfer ffaniau yn 2007, gyda chenhadaeth o weini ar deyrnassoedd ffanyddol trwy arbed ac annog creadigaeth o gyfryngau ffanyddol. Pedair ar ddeg blwyddyn yn ddiweddarach, mae ein hymrwymiad yn aros yn ddiysgog. Naillai trwy eiriolaeth gyfreithiol yn erbyn cyfraith gwrth-ffanyddol byd eang, achub ffanweithiau mewn peryg, recordio hanes ffanyddol, darparu lle i astudiaethau ffanyddol, neu weini eich ffanweithiau hen a newydd, mae’r OTW yn gweithio i amddiffyn ffaniau a’r gweithiau trawsffurfiol maent nhw yn eu creu.
Ond ni allem wneud hyn heb eich help. Fel yr ydym yn ei wneud pob mis Ebrill a Hydref, dros y tri dydd nesaf rydym yn gofyn i chi ystyried ymuno â’r OTW a chyfrannu i gefnogi ein gwaith. Os nad ydych allu cyfrannu’r amser hwn, ystyriwch rannu pyst newyddion y rali gydag eraill yn eich rhwydweithiau ffanyddol, a byddwch yn ymwybyddus sut bynnag rydych yn dangos eich ymrwymiad i’r OTW, mae eich cyfrannogiad a’ch brwdfrydedd yn wir yn cael eu gwerthfawrogi.
I ddangos ein gwerthfawrogiad am haelioni ein cyfranogyddion, mae gennym ni ychwanegiad newydd i’n detholiad eang o anrhegion diolchgarwch. Gallwch ddewis casgliad sticer canmol enfys pan rydych yn gwneud cyfranniad o $40 (UD) neu fwy. Gallwch nawr, o’r diwedd, rhoi canmol i’ch ffrindiau, anifeiliaid anwes a gwrthrychau tŷ!
Cofiwch, os na allwch gyfrannu at y lefel hon, ond hoffech geisio am hyn neu anrheg diolchgarwch arall, gallwch ddewis i gyfrannu maint llai ar sail gyson trwy ein tudalen gyfranniadau cylchol. Cysylltwch â’n tim Datblygiad ac Aelodaeth unwaith rydych wedi sefydlu eich cyfraniad cylchol, a gad iddynt wybod pa eitem hoffech arbed arian ar gyfer. Byddent yn dechrau cyfri eich cyfanswm tuag at yr anrheg diolchgarwch rydych wedi dewis.
Mae cyfraniadau o $10 (UD) neu fwy hefyd yn gwneud y cyfranydd yn gymwys ar gyfer aelodaeth yr OTW. Bydd aelodau yn derbyn eicon digidol arbennig gallwch ddefnyddio ar eich cyfrif ”Archive of Our Own – AO3” (Archif Ein Hun) neu ar gymunedau cymdeithasol. Yn fwy pwysig, mae aelodaeth yn eich gadael i bleidleisio yn etholiadau blynyddol Bwrdd Llywodraethydd yr OTW. Darganfyddwch mwy am aelodaeth a phleidleisio fama.
Ar gyfer cefnogyddion OTW o’r Unol Daleithiau ffordd haws i ychwanegu gwerth at eich cyfranniad yw trwy gydweddiad cyfrannu cyflogydd. Mae sawl cyflogydd yn cyfrannu’n gyfartal i achosion elusennol chefnogir gan eu gweithyddion: beth am siarad â’ch cyflogydd i weld os mae’r nodwedd hon ar gael?
Os rydych wedi bod fama am bob rali ers y dechrau, neu os mae hyn yw eich rali gyntaf, rydym ni mor ddiolchgar o’ch cymorth a’ch cyfraniadau. Gad i ni weithio gyda’n gilydd i wneud y rali hon yn un llwyddianus: ac os allwch, cyfrannwch heddiw!
Mae’r OTW yn fudiad rhiant ddi-elw o sawl brosiect, yn cynnwys AO3, Ffanllên, Drysau Agored, TWC, a hefyd Eiriolaeth Gyfreithiol yr OTW. Rydym yn fudiad sy’n cael ei rhedeg gan ffaniau a’i chefnogi gan gyfrannydd, gyda staff sy’n gwbl gwirfoddoladwy. Dysgwch mwy amdanom ar wefan yr OTW. I ddysgu mwy am ein tîm o gyfieithydd gwirfoddoladwy, gwelwch y dudalen Gyfieithu.