Pwyllgor Tîm Cynorthwywyr Bwrdd

Pwy Ydym Ni

Mae’r pwyllgor Tîm Cynorthwywyr Bwrdd yn helpu Bwrdd y Cyfarwyddwyr yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) gyda thasgau gweinyddol a rheoli prosiectau. Hefyd rydym yn gweithio gyda phwyllgorau eraill i helpu i gydlynu a chwblhau prosiectau arbennig sydd angen cefnogaeth ychwanegol.

Mae rhai o’n tasgau arferol yn cynnwys golygu cyhoeddiadau’r Bwrdd, cymedroli’r gweinydd Discord y Bwrdd OTW, cydlynu prosiectau, ac adolygu dogfennaeth y Bwrdd. Mae llawer o waith y tîm yn canolbwyntio ar brosiectau mewnol OTW, felly mae gennym bresenoldeb cyhoeddus bach (heblaw am cymredoli cyfarfodydd y Bwrdd ar Discord) – nid ydym yn bwyllgor y byddwch yn aml yn gweld cyhoeddusrwydd postiadau newyddion neu gynnal digwyddiadau cyhoeddus.

Er bod Tîm Cynorthwywyr y Bwrdd yn gweithio’n agos iawn gyda’r Bwrdd, nid yw gwirfoddolwyr Tîm Cynorthwywyr Bwrdd yn aelodau’r Bwrdd, ac nid oes ganddynt awdurdod aelodau’r Bwrdd. Er enghraifft, ni all y gwirfoddolwyr Tîm Cynorthwywyr Bwrdd yn bleidleisio ym mhenderfyniadau’r Bwrdd, sefydlu polisi, neu chyfryngu anghydfodau rhyng-bwyllgor.

Yn ogystal â chydweithio â’r Bwrdd, mae’r Tîm Cynorthwywyr y Bwrdd hefyd yn gweithio gyda phwyllgorau eraill i gefnogi prosiectau ac amcanian traws-bwyllgor. Nod y Bwrdd yw cefnogi’r OTW, ac rydym ni fel gwirfoddolwyr Tîm Cynorthwywyr Bwrdd yn gwneud ein gorau i helpu i gyflawni hynny.

Adeiledd Mewnol

Fel arfer, mae ein tîm yn cynnwys rhwng pump a phymtheg o wirfoddolwyr, wedi’i rannu’n bedwar arbenigedd: Golygyddion Copi/Ysgrifennwyr, Arbenigwyr Dogfennaeth, Safonyddion, ac Arbenigwyr Prosiect.

Mae Golygyddion Copi/Ysgrifennwyr y Tîm Cynorthwywyr Bwrdd yn helpu i ddrafftio a golygu postiadau newyddion, negeseuon, polisïau, a dogfennau arall ar gyfer y Bwrdd OTW. Mae Arbenigwyr Dogfennaeth y Tîm Cynorthwywyr Bwrdd yn creu ac yn adolygu dogfennaeth fewnol yr OTW, er mwyn atal colli gwybodaeth sefydliadol ac i wella tryloywder. Mae Safonyddion y Tîm Cynorthwywyr Bwrdd yn gymedroli Discord y Bwrdd OTW a sylwadau ar blogiau newyddion AO3 ac OTW. Mae Arbenigwyr Prosiect y Tîm Cynorthwywyr Bwrdd yn cwblhau prosiectau ymchwil neu bolisi arbennig ar gyfer y Bwrdd a phwyllgorau eraill.

Mae pob arbenigedd yn canolbwyntio ar y tasgau a nodir uchod, ond rydym hefyd yn gweithio ar y cyd a derbyn cefnogaeth gan arbenigeddau ac aeloau tîm eraill. Rydym yn pwysleisio gweithio gyda phwyllgorau eraill i’w gefnogi gyda tasgau os ydynt eisiau cymorth ychwanegol.

Ar adegau, mae’r Tîm Cynorthwywyr Bwrdd hefyd yn recriwtio arbenigwyr i gwblhau prosiectau neu amcanion tymor byr penodol. Gall hwn fod yn ddull defnyddiol o reoli tasgau sydd angen arbenigedd neu wybodaeth arbenigol y nad oes gennym ni eisoes ar y pwyllgor.

Cysylltwch â Ni

I ddysgu mwy am y Tîm Cynorthwywyr Bwrdd, neu os oes gennych gwestiynau eraill, cysylltwch â ni – byddem yn falch i glywed wrthoch.