Pwyllgor Cyfieithu

Pwy ydym ni?

Mae’r pwyllgor Cyfieithu yn dîm gwbl-wirfoddoladwy, gydag aelodau dros y byd i gyd. Ein cyfrifoldeb pennaf yw i wneud cynnwys yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) a’i phrosiectau yn hygyrchol i ffaniau sydd ddim yn siarad Saesneg. Rydym yn hefyd yn helpu pwyllgorau arall yr OTW cyfathrebu â ffaniau a defnyddyddion sydd ddim yn siarad Saesneg.

Yn fewnol, mae’r pwyllgor wedi’i rhannu mewn i gyfieithyddion a rheolyddion gwirfoddoladwy. Mae cyfieithyddion yn gweithio mewn tîmau iaith; maen nhw’n creu ac ail-ddarllen testynau sydd wedi’i gyfieithu. Mae rheolyddion gwirfoddoladwy yn cydlynu’r tîmau iaith ac yn delio â thasgiau gweinyddol, fel creu ac uwchlwytho dogfennau, cadw llygaid ar derfynoedd amser, cyfweld â chyfieithyddion potensial, ac hyfforddi gwirfoddolyddion newydd.

Mae gennym ni 47 dîm iaith, o bob maint; Affricâneg, Almaeneg, Arabeg, Bengaleg, Bwlgareg, Catalaneg, Tseineig wedi ei symleiddio, Tseineg traddodiadol, Cirgiseg, Corïeg, Croateg, Cymraeg, Daneg, Eidaleg, Estonaidd, Fietnameg, Ffilipineg, Ffineg, Ffrangeg, Groegaidd, Hebraeg, Hindi, Hwngareg, Iseldireg, Indoneseg, Lithwaneg, Macedonaeg, Maleieg, Marathi, Norwyeg, Persieg, Portiwgaleg Brasilaidd, Portiwgaleg Ewropeaidd, Pwyleg, Rwmaneg, Rwsieg, Sbaeneg, Serbeg, Siapanïeg, Sinhaleg, Slofaceg, Slofeneg, Swedeg, Teieg, Tsieceg, Tsieinïeg, Tyrceg ac Wcráneg. Rydym yn edrych am gyfleon i ddechrau timau iaith newydd trwy’r amser!

Ein Gwaith

Mae’r pwyllgor Cyfieithu yn cyfieithu adnoddau’r OTW a’i phrosiectau, yn cynnwys prif wefan y fudiad a Holiadau Cyffredin “Archive of Our Own – AO3” (Archif Ein Hun). Rydym yn hefyd yn gweithio ar erthyglau newyddion ac hysbysiadau i brosiectau’r OTW, fel hysbysiadau mewnforol Open Doors (Drysau Agored), erthyglau newyddion AO3, a ralïau aelodaeth OTW

Rydym yn hefyd yn cydweithio â thîmau Polisi a Chamdriniaeth a Chefnogaeth AO3 i gyfieithu negeseuon a cheisiau defnyddydd, ac i helpu ateb sylwadau ddi-Saesneg ar erthyglau cyhoeddus.

Tîm Cymraeg – Pwy Ydym Ni?

  • Cafodd Tîm Cymraeg ei chreu ar y 23ain o Fehefin, 2016.
  • Mae ganddyn nhw 4 wirfoddolydd ar hyn o bryd.
  • Maen nhw wedi gweithio ar gyfieithu cynnwys fel Cwestiynau Cyffredin AO3 a’r wefan OTW.
  • Maen nhw hefyd yn gweithio ar brosiectau arbennig fel paratoi cyfieithiadau ar gyfer ralïau aelodaeth OTW
  • Mae rhai aelodau o’r tîm yn helpu’r timau Cefnogaeth a Pholisi a Chamdriniaeth cyfathrebu gyda defnyddwyr AO3

Cysylltwch â Ni

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am waith y pwyllgor Cyfieithu, ein tîmau, gwirfoddoli gyda ni, neu os mae gennych chi holiadau, cysylltwch â ni – byddem yn hapus i glywed wrthoch.

Ble ydym ni?

Dyma map y byd sy’n dangos crynodeb o aelodau Cyfieithu OTW fel yr oedd ym mis Rhagfyr 2020. Mae’r gwledydd gyda mwy o aelodau wedi cael eu lliwio’n dywyllach. (Dim ond aelodau a oedd eisiau cael eu dangos ar y map sydd wedi cael eu cynnwys.) Mae’r map yn dangos eu dinasyddiaeth neu statws annedd, yn dibynnu ar pa un yr oedd pob gwirfoddolydd eisiau defnyddio.