Pwy ydym ni
Mae’r pwyllgor Cefnogaeth yn gweini fel y brif gysylltiad rhwng defnyddyddion yr “Archive Of Our Own – AO3” (Archif Ein Hun) a’r tîmau eraill sydd yn helpu rheoli a rhedeg yr AO3. Mae’r tim Cefnogaeth yn helpu datrys problemau technegol a chaiff eu darganfod gan defnyddyddion, yn ateb eu holiadau amdan yr AO3, yn anfon eu hadborth a’i ceisiau nodwedd ymlaen i godyddion a dylunyddion, profyddion a cecryddion tag, ac yn anfon adborth a holiadau eraill tuag at y pwyllgorau perthnasol
Rydym yn dîm gwbl-wirfoddoladwy, gydag aelodau o fen sawl gwlad wahanol. Mae pob un o’n cyfathrebiadau gyda defnyddyddion a gyda’n gilydd yn fformat testunol. Os nad oes gennym ni gwirfoddolydd Cefnogaeth sydd yn siarad yr iaith mae defnyddydd yn ysgrifennu i ni mewn, byddem yn gweithio gyda’r pwyllgor Cyfieithu felly gallem ei hateb yn ei iaith ddewisol. Ar y funud rydym yn tueddu i gael rhywbeth rhwng 1000 a 2000 o docynnau cefnogaeth y mis.
Ein Egwyddorion
Ein egwyddorion tywysyddol yw ymateboldeb tryloywdeb a chyfrinachedd. Mae hyn yn meddwl rydym yn anelu i ymateb i ddefnyddyddion mewn modd cefnogol ac amserol, i fod yn agored a phosib gyda defnyddyddion a phwyllgorau eraill, ac i barchu prifatrwydd defnyddyddion wrth delio â gwybodaeth sensitif neu cysylltadwy. Fel rhan o’n rôl, wthiau mae gennym gyrchiad i wybodaeth gyfrinachol, ond ni fyddem yn dadlennu hunanoldeb defnyddydd na’i gwybodaeth gyswllt, hyd yn oed yn fewnol gyda phwyllgorau eraill, heblaw bod y wybodaeth hon yn angenrheidiol i helpu datrys problem. Ni fyddem yn trafod cynnwys o docynnau cymorth penodol yn gyhoeddus, ond efallai fyddem yn cyhoeddi gwybodaeth gyfanredol fel nifer o docynnau neu dueddiadau cyffredinol.
Rydym yn cymryd adroddion o un ddefnydd mor difrifol â sawl holiad o nifer o ddefnyddyddion. Byddwch yn ymwybyddus nid yw adroddion ychwangol o’r un broblem, heblaw bod gennych chi gwybodaeth ychwanegol, yn angenrheidiol, ac efallai bydd hyn yn arafu ein gwaith trwy cynyddu’r nifer o docynnau rydym ni angen ateb. Er hynny, os rydych yn datrys eich problem ar eich ben eich hun cyn i ni ateb, mae’n iawn i chi anfon docyn newydd i adael i ni gwybod!
Beth rydym yn ei wneud (a ddim yn ei wneud)
Ar sail ddyddiol, mae defynyddyddion yn anfon adroddiadau o broblemau defnyddio AO3, holiadau am nodweddion y wefan, a cheisiadau ar gyfer datblygiad dyfodol. Mae’r tîm Cefnogaeth yn derbyn pob un o’r tocynnau hyn trwy ein meddalwedd tracio, ac mae ein gwirfoddolyddion yn hunan-neilltuo’r docynnau hoffent ateb, yn dibynnu ar ei amser ar gael, cyfarwydded â’r nodwedd neu broblem, neu’i sgiliau iaith. Bydd pob tocyn yn cael ateb, heblaw bod y defnyddydd yn gofyn fel arall, ond nad ydym bob amser yn delio a thocynnau yn y drefn rydym yn ei dderbyn. Efallai gall rhai problemau cael ei hateb yn cloi iawn, ac efallai mae rhai eraill angen fwy o amser i wneud diagnosis gwraidd y broblem, rhedeg profion, neu gyfathrebu â thimau eraill sydd wedi’i ymglymu. Bydd rhai problemau yn cael blaenoriaeth uwch (fel ymadroddion o wallau sy’n torri’r wefan), wrth i eraill fod yn llai pwysig (ceisiadau am nodweddion ychwanegol). Mae amserau ateb hefyd yn dibynnu ar maent y llwyth docynnau ac argaeledd aelodau’r tîm. Mae pob ateb fel arfer yn cael ei hadolygu gan un aelod staff arall sy’n gweini fel “beta” i dal gwalion, anwaith neu camdeipion cyn i’r ateb cael ei hanfon.
Heblaw problemau cymorth technegol, rydym hefyd yn derbyn holiadau amdan bolisïau a gweithdrefnau AO3, fel holiadau ar ba fathau o gynnwys a chaiff ei dderbyn ar y wefan, neu holiadau ar sut caiff tagiau eu cecru. Ar gyfer problemau sydd yn gysylltiedig i dagiau penodol, byddem yn cyfathrebu â’r pwyllgor Cecru Tagiau fel sydd angen i ateb yr holiad neu ddatrys y broblem. Er gallem ateb holiadau cyffredinol amdan ein Telerau, ni allem ateb problemau sydd yn cael ei delio gan y pwyllgor Polisi a Chamdriniaeth, fel adroddiadau o droseddau o’r Telerau posib (aflonyddwch, llên-ladrad, gweithiau camdagiol, etc.), problemau sydd angen ardystio hunaniaeth fel cael rheolaeth dros gyfrif coll, neu broblemau amdan reolaeth o weithiau anghatrefol. Os byddem yn derbyn y problemau rhain, byddem yn ofyn i’r defnyddydd i gysylltu â’r tîm Polisi a Chamdriniaeth yn ei lle. Dylai holiadau amdan ralïau cyfathrebu, aelodaeth OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) ac anrhegion cyfraniad cael ei hanfon i’r pwyllgor Datblygiaeth ac Aelodaeth.
Heblaw ateb tocynnau cymorth, rydym yn hefyd yn gwneud sawl beth arall. Rydym yn cadw’r dudalen Gwallau Diffiniedig yn ddilys. Rydym yn creu dogfennaeth fewnol ar wallau a cheisiadau nodwedd, ac yn aml yn helpu profi trwsiadau gwall neu nodweddion newydd. Rydym yn ymgynghori â phwyllgorau eraill i ddarparu meddyliau ar broblemau sy’n gysylltiedig ag ardaloedd arbenigol Cymorth, fel darparu meddyliau i’r pwyllgor Dogfennaeth AO3 ar holiadau cyffredin defnyddyddion a fydd yn dda i ychwanegu at neu that might be good to add or gloywi yn y Holiadau Cyffredin.Mae cadeiryddion Cefnogaeth yn delio â recriwtio o aelodau newydd i’r tîm, hyfforddiad a rheolaeth o aelodau pwyllgor.
Nid ydym yn cynnal na monitro’r cyfrif Twitr AO3_Status, er rydym yn annog i bobl gwirio’r ffrwd hynny am newyddion o unrhyw chwalfeydd ar y wefan cyn cysylltu â Chefnogaeth. Yn gyffelyb, nad ydym ni yn monitro sylwadau ar byst newyddion am holiadau, er hynny os fydd un o’n gwirfoddolydd yn gweld un, efallai byddw hw yn dewis i’w ateb, neu i arweinio’r defnyddydd i gysylltu â Chefnogaeth yn union.
Cysylltwch â ni
Os hoffech d
dysgu mwy am waith y pwyllgor Cefnogaeth, neu mae gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, neu os mae gennych chi unrhyw holiadau arall, cysylltwch â ni — byddem yn hapus i glywed wrthoch.