Newidiadau i Gyfrifoldebau Cefnogaeth a Chamdriniaeth

Er mwyn cydbwyso llwythi gwaith ein pwyllgorau Cefnogaeth a Chamdriniaeth, rydym yn gwneud newidiadau i bwy sydd yn gyfrifol am ba fath o gais.

Mi fydd y pwyllgor Camdriniaeth yn parhau i ddelio â throseddau telerau, a bydd y pwyllgor Cefnogaeth yn parhau i ateb cwestiynau ar sut i ddefnyddio’r wefan a delio gydag adroddiadau namau, fel yr arfer. Ond, mae yna rhai achosion oedd arfer cael eu delio â gan Gamdriniaeth, a fydd yn awr yn mynd at Gefnogaeth. Rhain yw:

  • Colli mynediad i gyfrif (er enghraifft, os nad ydych yn cofio neu allu defnyddio’r cyfeiriad e-bost wnaethoch ddefnyddio i greu’r cyfrif er mwyn ailosod y cyfrinair)
  • Cwestiynau a phroblemau ynglŷn â gweithiau anghartrefol
  • Gweithiau wedi’u labelu gydag iaith anghywir

Os ydych angen adrodd un o’r problemau yma, cysylltwch â Chefnogaeth. Os ydych yn cyfeirio adroddiad o unrhyw fath at yr adran anghywir, mae’n iawn! Byddem naillai yn trosglwyddo’r adroddiad yn syth, neu yn eich gofyn i’w hail-anfon i’r tîm cywir.

Rydym yn gobeithio bydd y newidiadau yma yn helpu ein haelodau tîm Camdriniaeth i ymroi mwy o’u hamser ac egni i faterion eraill!

Announcement, Archive of Our Own

Comments are closed.