
Byddwch yn barod: Mae Dydd Ffangyfryngau Rhyngwladol ddim ond un mis i ffwrdd! Cafodd Dydd Ffangyfryngau Rhyngwladol (neu “IFD”, ei acronym yn Saesneg) ei sefydlu yn 2014 gan yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy). Mae’n ddathliad o bob math o ffangyfryngau, ac yn cael ei ddal yn flynyddol ar y 15fed o Ionawr. Eleni rydym yn dathlu’r 8fed IFD blynyddol!
Yma yn yr OTW, ein thema eleni bydd Ffangyfryngau Clasurol a rymym yn gadael chi i ddiffinio “clasurol” ym mha bynnag ffordd hoffech chi. Gall hyn meddwl y gweithiau sydd wedi ffurfio asgwrn cefn eich teyrnas ffanyddol, neu y gweithiau rydych yn mynd nôl i, tro ar ôl tro – y gweithiau rydych yn ystyried fel “darllen angenrheidiol.” Gallwch cymryd rhan mewn unrhyw ffordd rdych eisiau, ond dyma tri awgrymiad:
- Creu rhestri argymehllion o’r gweithiau yma a’u rhannu fel rhan o’r Gŵyl Adborth, sy’n dechrau ar y 13eg o Chwefror
- Ysgrifennwch am beth mae eich hoff gweithiau wedi’u golygu i chi dros amser, naill ai mewn draethwad neu fel post ar gyfryngau cymdeithasol
- Cymrwch rhan yn ein sialens IFD ffanweithiau byra chreu ailgymysgion ohonyn nhw
Pa fydd hyn yn gweithiau sain, gweledol, neu destun, o fideöau i ffanweithiau ar lafar neu feta i ffanllên, meddyliwch am beth sy’n glasurol neu’n hanfodol i chi!
Rydym mor gyffrous i weld beth byddwch yn creu a rhannu! Rydym yn eich gwahodd i ddefnyddio’r hashtag #IFD2022 neu #IFDChallenge2022 os ydych yn cymryd rhan ar gyfryngau cymdeithasol, a’r tag ‘International Fanworks Day 2022’ os yw’r gweithiau yn cael eu postio ar yr “Archive of Our Own – AO3” (Archif Ein Hun). Os ydych chi neu eich cymunedau ffanyddol yn cynllunio i westya gweithgareddau eich hun, gadewch i ni gwybod er mwyn i ni gyfnerthu nhw!
Yna cadwch lygaid ar ein newyddion er mqyn ddarganfod mwy o wybodaeth am ein gweithgareddau Dydd Ffangyfryngau Rhyngwladol, byddwn yn postio am ein cynlluniau yn yr wythnos cyn IFD!
Mae’r OTW yn mudiad rhiant ddi-elw o sawl brosiect, yn cynnwys AO3, Ffanllên, Drysau Agored, TWC, ac hefyd Eiriolaeth Gyfreithiol yr OTW. Rydym yn fudiad sy’n cael ei rhedeg gan ffaniau a’i chefnogi gan gyfrannydd, gyda staff sy’n gwbl gwirfoddoladwy. Dysgwch mwy amdanom ar wefan yr OTW. I ddysgu mwy am ein tîm o gyfieithydd gwirfoddoladwy, gwelwch y dudalen Gyfieithu.