Blog archives

Pam gafodd yr OTW ei chreu?

Gwnaeth yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) gael ei chreu i weithio tuag at ddyfodol ble mae pob gwaith ffanyddol yn cael ei hadnabod fel gwaith cyfreithlon a thrawsffurfiadwy, ac yn cael ei derbyn fel gweithgaredd creadigol dilys. Ein cenhadaeth yw bod yn rhagweithiol ac arloesol wrth amddiffyn ein gwaith rhag ecsbloethiaeth masnachol a heriau cyfreithiol, ac i ddiogelu ein heconomi ffanyddol, ein gwerthoedd ac ein ffordd o fyw gan ddiogelu a magu ein cyd-ffaniau, ein gwaith ac ein hunaniaeth, wrth ddarparu’r mynediad fwyaf eang posibl i weithgareddau ffanyddol i bob ffan.

Beth yw’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy)?

Mae’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) yn fudiad dielw a chaiff ei sefydlu gan ffaniau i weini ar ddiddordebau ffaniau gan roi mynediad i a diogeli’r hanes o ffangyfryngau a ffandiwyllianau o bob math.