Faint o ddefnyddyddion Ewropeaidd sydd gennych?

Yn ôl dyluniad, nid yw’r OTW yn olrhain pob defnyddyddion, ac ni all greu hanes pori i bob unigolyn. Yn seiliedig ar ragdybiaethau am ddefnydd cyffredin sy’n rhesymol yng ngoleuni ein profiad, amcangyfrifwn fod nifer y defnyddwyr Ewropeaidd gweithredol misol tua 3.48 miliwn. Fodd bynnag, rydym yn cadw’r hawl i wneud rhagdybiaethau gwahanol yn y dyfodol. Hefyd, mae ansicrwydd ynghylch beth yw “platfform” neu “wasanaeth” o dan y Ddeddf Gwasanaethau Digidol ac a yw prosiectau fel yr Archif Ein Hun a’n Ffanllên yn “blatfformau” neu’n “wasanaethau” ar wahân i’w gilydd. Rydym yn cadw’r hawl i ailedrych ar y cwestiwn hwn yn y dyfodol, ond mae ein hamcangyfrif yn cwmpasu ein holl brosiectau ar hyn o bryd.

Comments are closed.