Beth yw eich cynllun am achos profi?

Nid oes gennym ni cynllun am achos profi. Rydym yn canolbwyntio ar gysylltu â grŵpiau eiriolaeth cyfreithiol fel yr EFF a hefyd datblygu adnoddau cyfreithiol ein hun.

Un o’r datblygiadau fwyaf cyffrous a defnyddiol yn hawlfraint yn ddiweddar yw’r datblygiad o “ymarferion gorau”, sef egwyddorion a gweithdrefnau sy’n sefydlu beth sy’n cyfri fel defnydd teg o fewn y feirniadaeth o gymuned o ddefnyddwyr creadigol. Gall ymarferion gorau amddiffyn hawliau defnydd teg yn llwyddiannus, heb gyfreitha – gwelwch y datganiad ymarferion gorau yn nefnydd teg. Rydym ni’n credu bod ffangyfryngau anfasnachol a thrawsffurfiadwy yn ddefnydd teg fel isafbwynt, a byddai’r OTW yn amddiffyn y safle hwn, fel mae creadwyr ffilmiau dogfen yn defnyddio eu hymarferion gorau i greu ffilmiau a masnachu heb cyfreitha.

Comments are closed.