Archive of Our Own – AO3 (Archif Ein Hun)
Mae’r AO3 yn cynnig lle gwesteio anmasnachol a ddi-elw i ffanstorïau ac ffanweithiau trawsffurfiadwy eraill, trwy ddefnyddio meddalwedd archifo cod agored.
Ffanhacwyr
Mae’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) yn cyhoeddi flog i hybu trafodaethau am meta ffan, a golygfeudd gan ffaniau ar astudiaethau ffan a’r gyfryngau.
Ffanllên
Mae Ffanllên yn wici sy’n trafod teyrnasoedd ffan, ac mae hi’n ymroddedig i ddiogelu hanes ffanwaith trawsffurfiadwy a’r teyrnasoedd wnaethon nhw eu ddod o.
Ffanfideöau ac Amlgyfryngau
Mae ein prosiectau amlgyfrwng cyfoesol yn cynnwys y “Fan Video Roadmap” (Fforddfap Ffanfideöau), prosiect “Vidding History” (Hanes Creu Ffanfideöau), y “Test Suite of Fair Use Vids” (Cyfres Profi o Ffanfideöau Defnydd Teg), a nifer o dudalenau adnodd i greuadwyr ffanfideöau, yn cynnwys awgrymiadau am lefydd i westeio eu ffanfideöau a chyfarwyddiadau am fewnblannu
ffanfideöau ar yr AO3.
Legal Advocacy (Eiriolaeth Gyfreithiol)
Mae’r OTW yn ymroddedig i ddiogelu ac amddiffyn ffanweithiau o ecsbloetiaeth masnachol ac heriau gyfreithiol.
Open Doors (Drysau Agored)
Mae “Open Doors” yn cynnig lloches i brosiectau ffan sydd mewn perygl. Mae’r is-brosiectau yn cynnwys y “Fan Culture Preservation Project” (Prosiect Diogelu Ffanddiwylliannau), sy’n diogelu ffangylchgronau ac ffangyfryngau annigidol eraill, a’r “GeoCities Rescue Project” (Prosiect Achub GeoCities).
Transformative Works and Cultures – TWC (Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy)
Mae’r TWC yn cyfnodolyn cyd-adolygadwy academaidd sy’n edrych i hybu ysgolheictod ar ffanweithiau ac ymarferion ffan.