Cwestiynau Cyffredin

Archive of Our Own (Archif Ein Hun)

Sut allai gael cyfrif ar yr AO3?

Wnaeth yr “Archive Of Our Own – AO3” (Archif Ein Hun) mynd mewn i beta agored yn fis Tachwedd, 2009. I creu cyfrif, rydych chi angen gwahoddiad. Rydym yn defnyddio system gwahoddiad felly gall yr AO3 tyfu’n rheolaidd. Mae’n rhaid i ni ychwanegu defnyddydd newydd yn raddol felly mae’r nifer o cyfrifau ddim yn tyfu’n fwy na beth mae ein caledwedd, rhyngrwyd band eang, help a chymorth gallu delio a. Mae hyn yn gwneud siwr bod pawb yn cael profiad mor orau â phosib. Pan rydych chi wedi derbyn gwahoddiad ebost, cliciwch y cyswllt yn yr ebost i fynd i’r dudalen greu cyfrif. Os rydych chi wedi cael cyswllt gwahoddiad o ddefnyddydd arall, dylwch clicio’r cyswllt honno i fynd a chithau i’r lle iawn.

Fanlore (Ffanllên)

Beth yw “Fanlore” (Ffanllên)?

Mae Ffanllên yn wici – gwefan aml-awdurol – a all pob ffan cyfrannu at. Ein gôl yw i recordio hanes cymunedau ffan, ac hefyd eu cyflwr cyfredol, trwy recordio ffangyfryngau, ymarferion ffan, terminoleg ffan, ffaniau unigol a digwyddiadau sy’n berthnasol i ffaniau. Am fwy o wybodaeth, gwelwch y dudalen Amdanom Ni ar Ffanllên a’r dudalen Holiadau Cyffredin Ffanllên.

Beth ddylai gwneud os credaf bod erthyglau neu gwybodaeth ar goll?

Mae pob ffan a phobl â diddordeb yn cael eu gwahodd i gyfrannu at Ffanllên trwy greu erthyglau neu drwy ychwanegu gwybodaeth at dudalennau sydd yn bodoli’n barod. Mae unrhywbeth gallwch cyfrannu tuag at gadwraeth hanes ffanyddol yn cael ei groesawi.

A fyddech chi’n cysylltu hunanieithoedd ffanyddol ac hunanieithoedd bywyd byw yn wici Ffanllên?

Mae gen yr wici Ffanllên polisi amddiffyn hunanieithoedd, sydd yn gwneud yn siwr bod ffaniau yn gallu cadw eu hunanieithau ffugenwol ffanyddol ar wahan i’w enwau bywyd byw, os hoffem. Yn ychwannegol, mae’r OTW (Mudiad Cyfryngau Ffan) yn ymroddiedig i amddiffyn preifatrwydd ffaniau, defnyddydd OTW neu ddim. Os mae rhywyn wedi golygu’r wici i gysylltu eich hunaniaeth bywyd byw a’ch hunaniaeth ffanyddol heb eich caniatâd, cysylltwch â Ffanllên a fyddem ni yn gweithio â chi i datrys y broblem.

Pam yw’r wici dim ond ar gael trwy cyfrwng Cymraeg? A allai cyfrannu at y wici mewn iaith arall?

Mae teyrnassoedd ffanyddol yn ryngwladol, ac rydym yn croesawi cyfraniadau o ffaniau dros y byd i gyd. Ar y foment, mae Ffanllên yn adnodd cyfrwng Saesneg, ond mae golygydd yn cael ei annog i ddogfennu teyrnassoedd, ffangyfryngau a chymunedau ffan a oedd efallai wedi’i arweinio yn iaith ddi-Saesneg. Os hoffech cyngor ar neu cefnogaeth i ddogfennu rhannau o deyrnassoedd ddi-Saesneg, neu os gennych chi diddordeb mewn gweithio gyda Ffanllên i wella scôp rhyngwladol y wici, cysylltwch â ni.

Ariannol

Ble chaiff yr OTW ei hymgorffori?

Mae’r OTW (Mydiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) wedi’i hymgorffori yn nhalaith Delaware, yn yr Unol Dalaithau.

Pam oes angen arian ar yr OTW, a ble fydd yr elw’n cael ei wario?

Mae’n rhaid i’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) defnyddio arian i brynu nwyddau a gwasanaethau ni all ei gwirfoddolyddion eu darparu, fel taliadau i wneud a’i gweithredidau a rhai taliadau gweinyddol. Mae taliadau gweithredidol yn cynnwys arian i brynu meddalwedd ac hefyd arian i brynu llê gweinydd, i greu a chynnal yr archif. Mae taliadau gweinyddol yn cynnwys llawer o eitemau sy’n debygol o fudiadau di-elw, fel yswiriant, taliadau prosesydd a thaliadau misol i gadw cyfrif banc. Wrth i’r mudiad tyfu, bydd adnoddau gweinyddol ac ariannol ychwanegol yn cynnwys gwasanaethau o gyfrifydd, arlwydd treth ac archwilydd annibynnol.

Pwy sy’n dewis beth mae elw’r OTW yn cael ei wario ar?

Yn y diwedd, y Bwrdd sy’n gyfrifol am y ddewisiadau ariannol fel rhan o’i rhwymedigaethau ymddiriedol. Mae trysorydd y Bwrdd yn benodol yn gyfrifol am greu a mewnblannu cyllideb yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy), ond mae rhaid i’r Bwrdd pleidleisio i gymeradwyo’r cyllideb, a hefyd i gymeradwyo unrhyw taliadau anrhagweledig. Am daliadau llai, bydd y Bwrdd yn darparu cyfrifoldeb i bwyllgorau’r OTW, i ddatgan pa nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen.

Sut allai cyfrannu at yr OTW? Allai gyfrannu os nad ydwyf yn byw yn yr Unol Dalaethau?

Gall yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) cymryd cyfraniadau o bob gornel o’r byd trwy gyfraniadau ar-lein, neu drwy ysgrifennu siec a’i hanfon i’n blwch Swyddfa Bost. Gwelwch y dudalen “Cefnogwch yr OTW” am mwy o fanylion.

Ni fydd ein prosesydd taliad yn dangos rhifau cyfrifau banc neu gerdynau credyd i’r OTW. Bydd sieciau personol yn dangos rhyw faint o fanylion cyfrif arnyn nhw, ond ni fydd y fath yna o fanwl yn cael ei ddal.

Cyfreithiol

Pam ydy’r OTW yn credu bod cyfryngau trawsffurfiadwy yn gyfreithiol?

Mae hawlfraint i fod i amddiffyn hawl y creadwr i elwi o’i ngwaith am gyfnod o amser, i annog ymdrechion creadigol a rhaniad eang o wybodaeth. Ond nid yw hyn yn atal hawliau pobl eraill i ateb i’r gwaith gwreiddiol, os bydd hi’n sylwebaeith feirniadol, parodi neu, fel credwn ni, cyfryngau trawsffurfiadol.

Yn yr Unol Daleithiau, mae hawlfraint wedi’i gyfyngu gan athrawiaeth defnydd teg. Dalwyd yr achos cyfreithiol Campbell y.e. Acuff-Rose bod rhaid i ddefnyddiau trawsffurfiadwy cael cydnabyddiaeth arbennig o fewn dadansoddiadau defnydd teg. I’r rhai sydd a diddordeb mewn darllen dadansoddiadau cyfreithlon fanwl, gall fwy o wybodaeth cael ei ddarganfod ar tudalen Dadansoddiad Cyfreithiol Ffanllên.

Open Doors (Drysau Agored)

Beth yw’r brosiect “Open Doors” (Drysau Agored)?

Mae’r prosiect “Open Doors” (Drysau Agored), rhan o’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy), wedi’i chysegru tuag at ddiogelu ffangyfryngau i’r dyfodol. Ein gôl arbenigol yw diogelu prosiectau ffan sydd mewn perygl o gael eu colli oherwydd diffyg amser, diddordeb neu adnoddau ar ran y cynhaliwr presennol.

Am fwy o wybodaeth, gwelwch wefan Drysau Agored, sy’n cynnwys tudalen holiadau cyffredin llawn ar gyfer y prosiect hwn.

Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy

Beth yw’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy)?

Mae’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) yn fudiad dielw a chaiff ei sefydlu gan ffaniau i weini ar ddiddordebau ffaniau gan roi mynediad i a diogeli’r hanes o ffangyfryngau a ffandiwyllianau o bob math.

Pam gafodd yr OTW ei chreu?

Gwnaeth yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) gael ei chreu i weithio tuag at ddyfodol ble mae pob gwaith ffanyddol yn cael ei hadnabod fel gwaith cyfreithlon a thrawsffurfiadwy, ac yn cael ei derbyn fel gweithgaredd creadigol dilys.

Ein cenhadaeth yw bod yn rhagweithiol ac arloesol wrth amddiffyn ein gwaith rhag ecsbloethiaeth masnachol a heriau cyfreithiol, ac i ddiogelu ein heconomi ffanyddol, ein gwerthoedd ac ein ffordd o fyw gan ddiogelu a magu ein cyd-ffaniau, ein gwaith ac ein hunaniaeth, wrth ddarparu’r mynediad fwyaf eang posibl i weithgareddau ffanyddol i bob ffan.

Transformative Works and Cultures (Diwyllianau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy)

Beth yw’r pwrpas tu ôl i “Transformative Works and Cultures” (Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy)?

Mae’r “Transformative Works and Cultures” – TWC (Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy) – i fod i ddarparu lle ar gyfer dadansoddiadau academaidd o ffangyfryngau unigol ac o’r diwylliannau mwy a wnaethon nhw eu dod o, wrth helpu dangos gwerth cymdeithasol, addysgol ac aesthetaidd o deyrnasoedd a chyfryngau ffanyddol.

Mae’r TWC yn helpu ffaniau sydd â diddordeb mewn cyfranogi i’r teyrnasoedd mewn ffordd fwy damcaniaethol ac academaidd i rannu eu hysgoloriaeth ar led, wrth wella cyfathrebiad rhwng ffaniau ac academyddion, a hefyd darparu cefndir damcaniaethol i genhadaeth yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) o egluro a diogelu teyrnasoedd a ffangyfryngau trawsffurfiannol. Bydd y cyfnodolyn hefyd yn egluro’r cyd-destun o ffanweithiau penodol i helpu sefydlu ffanweithiau fel cyfrwng creadigol yn ffordd ei hun.

Pa mor aml ydy’r TWC yn cael ei chyhoeddi?

Mae’r ”Transformative Works and Cultures – TWC” (Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy) yn cael ei chyhoeddi dwywaith y flwyddyn, ar Fawrth 15fed a Medi 15fed.

Sut allai cyflwyno papur i’r TWC?

Mae yna ganllawiau cyflwyno manwl ar-lein ar gael ar wefan ”Transformative Works and Cultures – TWC” (Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy).

Rydym yn croesawi gyflwyniadau o bawb oni bai bod y cyfraniad yn cydymffurfio â chanolbwynt a scôp y TWC.

Pa fath o bethau ydy’r TWC yn argraffu?

Mae’r ”Transformative Works and Cultures – TWC” (Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy) yn argraffu erthyglau academaidd ag adolygiad cymheiriaid amdam drawsffurfiad yn eang, amdan gyfranogiad ffan â gwahanol fathau o destunau, ac amdan gymunedau ffan; erthyglau meta a thraethodau sydd wedi’i hadolygu’n golygyddol; adolygiadau llyfr; a chyfweliadau.

Pa hawlfraint a ddefnyddir gan TWC?

Gan ddechrau gyda Transformative Works and Cultures – TWC (Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy) Rh. 25, bydd traethodau’n cael eu trwyddedu o dan Briodoliad Gwerin Creadigol – Trwydded Ryngwladol 4.0. Am esboniad ar ymresymiad y cylchgrawn, cyfeiriwch at y golygyddol dyddiedig 15 Medi, Hawlfraint a Mynediad Agored.

Mae’r drwydded hon yn caniatáu defnydd anfasnachol a masnachol gyda phriodoliad. Am hynny, nid oes rhaid i endidau fel gweisg sy’n dymuno ailargraffu erthyglau gael caniatâd (hyd yn oed at ddibenion masnachol).

Mae TWC Rh. 1 i 24 wedi’u trwyddedu o dan y Priodoliad Gwerin Creadigol – Trwydded Anfasnachol Anmhorthadwy 3.0. Mae TWC, nid yr awdur, yn dal hawlfraint y rhifynnau hyn. Rhaid i unrhyw un sy’n ceisio atgynhyrchu cynnwys er elw gael caniatâd gan TWC, gan gynnwys awduron. Rhoddir caniatâd am ddim fel mater o drefn..

Anfonwch ymholiadau at y golygydd.

Pam nad yw’r TWC yn darparu PDFau o’i herthyglau?

Oherwydd mae’r ”Transformative Works and Cultures – TWC” (Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy) yn siwrnal amlgyfrwng sy’n cyhoeddi saethiadau sgrin, mewnblannu fideos a defnyddio hypergyswlltiadau, mae rhaid i’r siwrnal cael ei chyhoeddi ar-lein. Ni all PDFau ddyblu’r profiad rhyngweithiol o’r siwrnal.

Yn bellach, oherwydd mae’r TWC wedi’i hawlfreintio o dan Trwydded Priodoliad Gwerin Creadigol – Trwydded Rhyngwladol 4.0, efallai y bydd ffaniau’n eisiau trawsffurfio’r siwrnal trwy greu PDFau o’r cynnwys a’i gwneud ar gael yn gyffredinol. Oni bai bod y testun yn rhoi cysylltiau i’r ddogfen wreiddiol, ac nad ydy’r postwr yn gofyn am arian, mae’r gweithgaredd hon yn dderbyniol ô dan dermau’r drwydded CC. Mewn wirionedd, mae’r TWC yn annog y fath yma o weithgaredd trawsffurfiol ffanyddol.

Yn olaf, mae’r TWC yn nacáu’r bri mae’r llefydd academaidd yn rhoi ar gyfryngau sydd wedi’i brintio. Os wnaethom ni creu PDFau swyddogol, basau’r dogfennau rhain yn cael ei hamheuthun fel copi awdurdodol, ac nid y ddogfen wreiddiol, dim ond oherwydd y bri mae’r diwylliant cyhoeddi academaidd yn rhoi ar destunau sydd wedi’i argraffu – er byddai’r PDF yn wastad yn mynd i fod yn giplun llonydd eilradd o ddogfen ryngweithiol.

Gwirfoddoli

Gallai gwirfoddoli am mwy nag un rôl?

Gallwch, mae nifer o wirfoddolwyr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) yn neilltuo eu amser i fwy nag un rôl. Rydym yn gofyn rydych yn ystyried y gofynion amser o’r rôlau mae gennych diddordeb mewn a faint o amser mae gennych chi i roi i’r mudiad. Mae gallu bod yn gynorthwyol pan mae pobl yn gwirfoddoli am mwy nag un rôl, ond rydym hefyd eisiau sicrhau nad yw ein gwirfoddolwyr ddim yn colli cymhelliant o ormod o gyfrifoldeb. Mae pob un o ein disgrifiadau safle yn rhoi anghenrhaid amser amgamgyfrifiannol. Dyle gwirfoddolwyr hefyd ystyried trafod cymryd rôlau ychwanegol efo cadeirydd ei pwyllgor.

Oes angen i mi bod mewn lleoliad penodol i wirfoddoli?

Mae pob un o’r gwirfoddolwyr yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) yn gweithio’n angydamseredig arlein, felly nid oes angen i chi bod mewn unrhyw lleoliad penodol. Os oes gennych chi mynediad i’r rhyngrwyd, rydych chi mewn y lle cywir (a gallwch chi gweithio efo pobl o amgylch y byd).

Mae rhan fwyaf o’r gwybodaeth ar eich gwefannau mewn Saesneg? Gallai dal gwirfoddoli os nad yw Saesneg fy iaith cyntaf?

Gallwch! Rydym yn croesawi gwirfoddolwyr o bob cefndir ar draws y byd. Mae gennym nifer o ddefnyddwyr, aelodau, a gwirfoddolwyr efo iaith cyntaf heblaw am Saesneg. Mae nifer o ein pwyllgorau a phrosiectau yn mwynhau cael gwirfoddolwyr a gall siarad mwy nag un iaith.

Saesneg yw’r prif iaith rydym yn defnyddio i gyfathrebu efo ein gilydd yn y mudiad, felly bydd angen i chi gallu gweithio mewn Saesneg, ond nid oes angen iddi bod yn berffaith! Os oes gennych chi cwestiynau am wneud cais am rôl agored, gadewch i Recriwtio a Gwirfoddoli gwybod.

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi cyflwyno ffurflen cais?

Mae hyn yn dibynnu ar y fath o rôl mae gennych ddiddordeb mewn. Unwaith i chi gwasgu cyflwyno, dylech chi gweld gwybodaeth am beth sy’n digwydd nesaf. Wedyn, byddwch yn derbyn neges cadarnhad awtomatig.

Unwaith i recriwtio dod i ben, bydd Recriwtio a Gwirfoddoli yn danfon ceisiadau pawb i’r cadeirydd perthnasol (arweinwyr pwyllgor). Bydd y cadeirydd wedyn yn cyfweld a’r ceisyddion darpar, naill ai trwy sgwrs neu trwy holiaduron ychwanegol, i ddarganfod gwirfoddolwyr ar gyfer ei angenion cyfredol. Byddem yn gadael pawb i wybod y canlyniadau o’u cais mor gynnar a phosib.

Nid oes gen i’r sgiliau neu profiad mae’r rôlau ar gael yn gofyn am. Gallai gwneud cais beth bynnag?

Rydym yn caru croesawi gwirfoddolwyr yn edrych am brofiadau newydd, ond mae rhai o ein rôlau yn angen gwirfoddolwyr efo sgiliau a phrofiad penodol. Gall hyfforddi dechreuwyr ar gyfer rôl hefyd dibynnu ar faint o wirfoddolwyr profiadol gall hyfforddi nhw. Mae’r disgrifiad y safle yn ddangos yr gofynion profiad ac amser i’r safle.

Parhewch i wirio’r tudalen gwirfoddoli am rôlau agored sy’n cyfatebol i eich cymwysterau.

Gallwch hefyd helpu trwy ychwanegu gwybodaeth i Fanlore, wiki cadwraeth ffandeyrnas yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadol). (Dechreuwch at y Portal Defnyddwyr Newydd.) Os hoffech chi cyfrannu i’r côd Archive of Our Own – AO3 (Archif Ein Hunain), gallwch gwneud hyn trwy ein GitHub heb gwirfoddoli yn swyddogol. Cyfeiriwch at y tudalen yma am fwy o wybodaeth.

Os oes gennych chi cwestiynau am y gofynion o rôl, cysylltiwch a Recriwtio a Gwirfoddoli.

Mae gen i diddordeb mewn rôl sydd ddim wedi rhestri ar hyn o bryd. Gallai gwneud cais beth bynnag?

Ar hyn o bryd, rydym ond yn derbyn ceisiadau ar gyfer rôlau sydd wedi’i rhestri. Yn yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy), rhan o ein broses yw i ond recriwtio ar gyfer rôlau sy’n derbyn gwirfoddolwyr newydd ac yn barod i eu hyfforddi a’u cymryd ymlaen. Ond, rydym yn annog chi i barhau i wirio y tudalen gwirfoddoli a Newyddion OTW am y rôl mae gennych diddordeb mewn i ddod ar gael.

Gallwch hefyd helpu trwy ychwanegu gwybodaeth i Fanlore, wiki cadwraeth ffandeyrnas yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy). (Dechreuwch at y Portal Defnyddwyr Newydd.) Os hoffech chi cyfrannu i’r côd Archive of Our Own – AO3 (Archif Ein Hunain), gallwch gwneud hyn trwy ein GitHub heb gwirfoddoli yn swyddogol. Cyfeiriwch at y tudalen yma am fwy o wybodaeth.

Os oes gennych chi cwestiynau am y gofynion o rôl, cysylltiwch a Recriwtio a Gwirfoddoli.

Oes angen i mi defnyddio’r enw rydw i’n defnyddio mewn ffandeyrnas neu ar yr AO3 ar hyn o bryd os ydw i eisiau gwirfoddoli? Oes angen i mi defnyddio fy enw AO3 cyfredol i wirfoddoli fel Cecrydd Tag?

Mae croesi i chi defnyddio pa bynnag enw rydych chi eisiau pan rydych yn gwirfoddoli am yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy), os mae’n dilyn y Polisi Enw OTW. Mae rhai gwirfoddolwyr yn hoffi clymu ei gwaith i ei hunaniaeth ffan ac mae well gan rhai defnyddio ei enw cyfreithiol, yn enwedig os ydyn nhw’n cynllunio defnyddio ei gwasanaeth gwirfoddoli ar ei CV. (Nid oes angen gwirfoddoli yn defnyddio eich enw cyfreithiol am hyn. Gall Recriwtio a Gwirfoddoli cadarnhau eich gwaith efo eich cyflogwyr.) Mae croeso i chi wneud ychwaith neu dewis enw hollol newydd i ddefnyddio.

Os dewch yn gwirfoddolwyr Cecru Tagiau ond nid ydych chi eisiau clymu eich cecru efo eich cyfrif cyfredol, gall eich cadeirydd helpi chi i greu cyfrif gwahanol. Nid oes angen i eich cyfrif cyfredol cyfateb i eich enw OTW, ond efallai bydd eich enw OTW yn cael ei cysylltu a eich enw Archive of Our Own – AO3 (Archif Ein Hunain) yn y cwrs eich gwaith cecru.

Nodwch: mae nifer cyfyngedig o rôlau yn gofyn i chi defnyddio eich enw cyfreithiol, gan eu bod yn cynnwys gwaith efo mudiadau allanol. Bydd hyn wastad yn y disgrifiad safle neu’r ceisiad.

Mae hefyd yn anghenrhaid cyfreithiol i’r Bwrdd Llywodraethwyr i ddefnyddio eu enwau cyfreithiol. Mae angen i ymgeiswyr am Bwrdd Llywodraethwyr rhedeg efo eu enwau cyfreithiol. Ond, bydd ond angen i nhw newid ei enwau OTW i ei enwau cyfeithiol ar ôl i nhw cael eu ethol.

Gallai newid fy enw/manylion ar ôl gwneud cais?

Gallwch newid eich enw neu manylion ar ôl i chi gwneud cais neu yn ystod y cwrs eich gwaith gwirfoddoli. Bydd angen i eich enw newydd dilyn y Polisi Enw OTW.

Gallai cymryd egwyl o fy ngwaith gwirfoddoli cyn i fy nymor gorffen?

Os ydych yn darganfod dydych chi ddim gallu cwblhau eich dyletswyddau gwirfoddoli o fewn y gofynion amser dysgwyliedig o eich safle, gallwch gofyn i gymryd hiatus o eich cadeirydd pwyllgor.

Os hoffech chi ymddeol o waith gwirfoddoli, gallwch gwneud hyn ar unrhyw adeg.

Gallai gwirfoddoli am fwy nag 1 blynedd?

Gallwch! Mae’r tymor sydd wedi’i rhestri ar ddisgrifiad y safle ond y anghenrhaid isaf swm. Mewn gwirionedd, mae gennym nifer o wirfoddolwyr sydd wedi bod gyda’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) am mwy na degawd!

Pa e-bost dylai defnyddio i wneud cais?

Gallwch gwneud cais efo unrhyw cyfeiriad e-bost rydych yn defnyddio. Ond bydd eich cyfeiriad e-bost yn weladwy i rhai gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am brosesu ac adolygu eich cais. Os na hoffech chi cysylltu eich hunaniaeth ffanyddol efo eich enw cyfrifol, peidiwch defnyddio eich cyfrif e-bost personol/gwaith/ysgol.

Hawliwch e-bostiau oddi wrth *@transformativeworks.org fel gallwch chi derbyn negeseuon oddi wrth ein gwirfoddolwyr.

Rydw i wedi gwneud cais, ond dydw i ddim wedi clywed unrhyw beth eto. Beth dylai gwneud?

Dyle pob cais derbyn ateb-awtomatig efo’r camau nesaf yn y proses. I sicrhau rydych yn derbyn yr e-bostiau yma, hawliwch e-bostiau oddi wrth *@transformativeworks.org.

Os nad ydych chi wedi cael yr ateb-awtomatig o fewn 48 awr, gwiriwch eich hidlydd ebostach ac wedyn cysylltiwch a Recriwtio a Gwirfoddoli. Gadewch i ni gwybod pa safle ceisioch am a’r enw defnyddioch ar y cais.

Os ydych chi wedyn derbyn ateb-awtomatig ac yn aros i glywed nôl o’r pwyllgor rydych chi wedi ceisio am, nodwch mae rhan fwyaf o geiswyr gwirfoddoli yn cael ymatebion 2-4 wythnos ar ôl i’r safle cau. Gallwch cadarnhau’r amcangyfrif amser am atebion ar yr ateb-awtomatig. Os mae’n heibio’r amser yna, cysylltiwch a Recriwtio a Gwirfoddoli. Gadewch i ni gwybod y safle ceisioch am a’r enw defnyddioch ar y cais i ofyn am ddiweddariad.

Oes angen unrhyw meddalwedd neu dyfeisiau arbennig i wirfoddoli?

Bydd angen mynediad sefydlog i’r rhyngrwyd, oherwydd rydym yn defnyddio meddalwedd yn seiliedig ar y we ac e-bost i gyfathrebu. Am resymau diogelwch data, mae angen i wirfoddolwyr arwain a rheoli gwaith gwirfoddoli yn defnyddio’r darparwr gwasanaeth e-bost yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy). Gall rhai rôlau hefyd angen mynediad i wahanol wefannau neu meddalwedd. Mae mynediad i’r offer yma yn rhydd neu yn cael eu talu am gan yr OTW.

Oes anghenrhaid oedran lleiafswm i wirfoddoli?

Er mwyn dilyn y General Data Protection Regulation (GDPR) o dan gyfraith UE, gallwn ni ond derbyn gwirfoddolwyr sy’n 16 mlwydd oed neu henach. Gall rhai rôlau neu pwyllgorau angen i wirfoddolwyr bod yn 18 mlwydd oed neu henach. Gallwch darganfod anghenrhaid oedran yn y disgrifiad safle.

Byddai’n cael fy nalu am wirfoddoli?

Na, nid yw gwirfoddolwyr yn yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) yn cael eu talu am eu gwaith.

Ond dydy’r OTW hefyd ddim yn disgwyl i wirfoddolwyr talu am gostau sy’n ysgwyddo yn y cwrs eu gwaith i’r mudiad. Bydd yr OTW yn talu am fynediad y offer arlein a meddalwedd anghenrheidiol i gwblhau gwaith mudiad. Byddem hefyd yn ad-dalu costau cymeradwywyd ymlaen llaw ac anghenrheidiol.

Oes unrhyw gofidiau hygyrchedd ynglyn a gwirfoddoli?

Gall rhai rôlau am yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) defnyddio offer sydd ddim yn gweithio’n dda efo rhai technoleg cynorthwyol. Mae rhan fwyaf o ein gwaith yn seiliedig ar destun, ac gall rhai rôlau bod yn gyflym, ac angen rhyngweithiad arlein yn syth ar sgwrs yn seiliedig ar destun.

Os oes gennych cwestiynau ar offer sydd angen ar gyfer rôlau penodol, cysylltiwch a ni ac byddem yn gwneud ein gorau i helpi.

Mae gen i gwestiynau amdan gwirfoddoli sydd heb ei ateb yma.

Cysylltiwch a Recriwtio a Gwirfoddoli yn defnyddio’r ffurflen cysylltu ac byddem yn mwy na hapus i’w ateb i chi.