Caiff yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) ei sefydlu gan ffaniau ar gyfer ffaniau yn 2007, gyda chenhadaeth o weini ar deyrnassoedd ffanyddol trwy arbed ac annog creadigaeth o gyfryngau ffanyddol. Pedair ar ddeg blwyddyn yn ddiweddarach, mae ein hymrwymiad yn aros yn ddiysgog. Naillai trwy eiriolaeth gyfreithiol yn erbyn cyfraith gwrth-ffanyddol byd eang, achub ffanweithiau mewn peryg, recordio hanes ffanyddol, darparu lle i astudiaethau ffanyddol, neu weini eich ffanweithiau hen a newydd, mae’r OTW yn gweithio i amddiffyn ffaniau a’r gweithiau trawsffurfiol maent nhw yn eu creu.
Ond ni allem wneud hyn heb eich help. Fel yr ydym yn ei wneud pob mis Ebrill a Hydref, dros y tri dydd nesaf rydym yn gofyn i chi ystyried ymuno â’r OTW a chyfrannu i gefnogi ein gwaith. Os nad ydych allu cyfrannu’r amser hwn, ystyriwch rannu pyst newyddion y rali gydag eraill yn eich rhwydweithiau ffanyddol, a byddwch yn ymwybyddus sut bynnag rydych yn dangos eich ymrwymiad i’r OTW, mae eich cyfrannogiad a’ch brwdfrydedd yn wir yn cael eu gwerthfawrogi.