Mae’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) yn cael ei redeg ar gyfer ffaniau, gan ffaniau. Mae pob llywodraethydd ar Fwrdd yr OTW yn gweithredol yn nheyrnasoedd ffanyddol, fel y canoedd o bobl eraill sy’n gweinyddu ar bwyllgorau a sy’n gweithio fel gwirfoddolydd.
Bwrdd Llywodraethydd
Daeth Kari Dayton (ei/hi) o hyd i deyrnassoedd ffanyddol am y tro cyntaf yn ifanc iawn trwy Sailor Moon, ond bydd hi’n sawl blwyddyn arall nes iddi ddod o hyd i ffanstorïau yn y teyrnas Harry Potter. (Mae hi’n credu’n gryf mewn hawliau pobl traws ac wrth ei bodd gyda’r gwaith sydd wedi’i wneud i bellhau’r teyrnas anhygoel Harry Potter oddi wrth y fitriol atgas y mae’r creüydd yn eu phigo.) Er bod llawer o gwningod plot yn byw yn ei phen, nid yw hi wedi ysgrifennu llawer o ffaneithiau ac mae’n well ganddi weithio y tu ôl i’r llenni fel cecrydd tag, pwyllgor ymunodd hi â yn 2018. Mae hi’n oruchwyliydd Cecru Tag gweithgar (ers 2019), ac mae hi’n mwynhau helpu gyda gwaith gweinyddol a thalfu syniadau am ffyrdd o wneud bywydau y cecryddion tag yn haws. Yn ystod y dydd, mae’n gweithio ym maes technoleg i gwmni VoIP, a hi yw prif hyfforddydd mewnol ac arweinydd technegol ei hadran. Mae ei swydd bob dydd yn cynnwys ysgrifennu a diweddaru dogfennaeth, bod yn adnodd i gydweithyddion yn ei hadran ac adrannau cysylltiedig, ateb holiadau (trwy sgwrsio ac ebost), a hyfforddi gweithyddion newydd. Mae hi’n adnabyddus yn ei chwmni am helpu adrannau i gydweithredu, hwyluso cyfathrebu rhwng adrannau, bod y person sy’n gwybod pethau, ac yn gyffredinol yn meddwl bod seilos gwybodaeth yn anghymwynas i bawb. Byddai hi’n hapus i’ch hyfforddi chi ar unrhyw dasg yr hoffech chi wybod mwy amdani – gofynnwch!
Mae Antonius Melisse (Arlywydd) yn berson o’r Iseldiroedd sy’n credu’n gryf na ddylai rhywun roi’r gorau i ddysgu pethau newydd. Mae o wedi ennill ardystiadau, trwy’r brifysgol a fel arall, mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Newyddiaduraeth, dau ddull o brofi meddalwedd (ISTQB a TMAP Next) a datblygu PHP. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel datblygydd tu cefn Symfony. O ran profiad rheoli yn y gorffennol, mae o wedi bod yn aelod bwrdd ar gyfer grŵp theatr gerdd yr oedd yn aelod (canu bas), a mae o wedi cael swydd reoli lle bu’n gyfrifol am fyfyryddion yn chwilio am swyddi ar gyfer yr haf. Cafodd ei gyflwyno i deyrnasoedd ffanyddol gan rai ffrindiau hir-amser a gwrddodd wrth chwarae World of Warcraft. Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw ysgrifennu ffanstorïau a straeon gwreiddiol ar y fforymau ar gyfer eu hurdd. Pan soniodd un o’r ffrindiau eu bod nhw’n cyfieithu yn y OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) ers tro a bod agoriad yn y tîm Iseldireg, fe neidiodd ar y cyfle ac mae wedi bod yn rhan o’r pwyllgor Cyfieithu ers Chwefror 2016. Yn yn y gorffennol mae hefyd wedi gwirfoddoli yn y pwyllgor Polisi a Chamdriniaeth. Ar hyn o bryd, mae’n gwneud ychydig o ffanstorïau ar lafar bob hyn a hyn, fel arfer ar gyfer The Witcher, ond mae’n gwerthfawrogi’r rhan fwyaf o ffantasi ffantasi a ffuglen wyddonol.
Mae Rebecca Sentance wedi bod yn nheyrnassoedd ffanyddol am 15 o flynyddoedd, yn dechrau ar Cwisilla ble bydd hi’n darllen ffanstorïau â golygfeydd ail-berson yn nheyrnassoedd fel Yu-Gi-Oh!, Inuyasha, Yu Yu Hakusho a Dragonball Z. Er hyn, ei ffanwaith cyntaf oedd ffanstori Enid Blyton wnaeth hi ysgrifennu pan oedd hi’n bump mlwydd oed – oesoedd cyn iddi breuddwydio bod holl gymunedau o bobl yn cyhoeddi a darllen y gweithiau rhain ar lein. Darganfyddodd hi’r AO3 yn 2011 ac yn dysgodd hi by araf amdan y fudiad tu ôl iddi a’i phrosiectau eraill, a wnaeth arwain hi i neidio i fewn i hanes ffanyddol ac academia ffanyddol, a dysgu am yr holl bwysigrwydd o ddiogelu ac amddiffyn ffanweithiau o bob fath. Er oedd hi’n awyddus i ymuno â’r AO3, ni wnaeth hi dal rownd recriwtio agored tan canol 2015, ar ôl gorffen ei hastudieithau ôl-radd, pan gwelodd hi hysbysiad ar gyfer staff Dogfennau AO3 – y ffit perfaith ar gyfer rhywyn sy’n caru geiriau. Yn hwyrach, fe ymunodd hi â’r pwyllgorau Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy a Ffanllên, ac yn awr yn ymroi rhaniad fawr o’i hamser i fod yn rhan o’r cymuned rhagorol o ffaniau hon. Pan nad yw hi’n gwirfoddoli gyda’r OTW, gallwch ei ffeindio hi yn llercian yn rhannau o’r deyrnas Marfel ac yn gohirio ar ei ffanstori nesaf.
Darganfudodd E. Anna Szegedi teyrnas ffanyddo; flynyddoedd cyn iddi hyd yn oed wybod beth oedd ystyr y gair. Ysgrifennodd ei ffanstori cyntaf (ar gyfer Heroes of Might and Magic III) gyda pensil ar bapur argraffydd yn wyth oed. Ei menter gyntaf i deyrnassoedd ar-lein oedd drwy fforwm bach ymroddedig i trioleg Bartimaeus gan Jonathan Stroud, a dyna hefyd lle y cyhoeddodd ei ffanwaith aml-bennod gyntaf. Wnaeth darganfod fforymau a safleoedd ffaniau Saesneg ei hysgogi i ddysgu Saesneg, a fe wnaeth darllen (ac ysgrifennu) ffanstorïau yn Saesneg danio ei chariad am ieithoedd. Ymunodd â’r OTW (Mudiad Cyfryngau) fel aelod o’r pwyllgor Cyfieithu yn 2017. Fel defnyddydd brwd o “Archive of Our Own – AO3” (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy), roedd Anna yn gyffrous i helpu i wneud prosiectau’r OTW yn fwy hygyrchol i’r rhai nad oedd yn siarad Saesneg. Yn hwyrach, daeth yn rheolydd gwirfoddol i’r pwyllgor, gan weithio i hyfforddi a chefnogi gwirfoddolyddion Cyfieithu yn eu tasgau. Mae gan Anna radd baglor mewn Saesneg ac Ieithyddiaeth Americanaidd a gradd meistr mewn Cyfieithu a Dehongli. Mae hi’n gweithio yn adran weinyddol prifysgol, yn gyfrifol am drefnu derbyniadau a darparu chymorth ddydd i ddydd i fyfyryddion rhyngwladol.
Mae Alex Tischer (Ysgrifenydd) yn gweithio fel milfeddyg triniaeth argyfwng a chritigol, yn y Deyrnas Unedig yn gyfredol; maen hw wedi bod yn nheyrnasoedd ffanyddol ers cyn y mileniwm ac wedi symud trwy ormod o deyrnassoedd i gael ei rhestri fama. Maen hw wedi bod yn aelod o’r OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsfurfiadwy) ers ei dechrau a gwirfoddolon nhw am bron yr un faint o amser. Heblaw teyrnassoedd cyfryngol, darganfyddon nhw ym mydysawd rhyfedd a rhyfeddol chwaraeon – grwpiau cloer sy’n edrych yn debyg i deyrnassoedd ffanyddol mewn sawl ffordd syndodol. Pan nad yw nhw’n ddelio ag anifeiliaid anwes, gall Alex cael ei ffeindio yn gwneud cyrsiau antur, dringo a rhedeg trywydd bron mor aml a maent yn defnyddydd cyfryngau.
Mae Jess White yn ddefnyddydd brwdfrydig o bopeth i wneud â theyrnasoedd ffanyddol, ac wedi bod fel hyn ers i hi darganfod ffangylchgronnau Kirk/Spock ei modryb yn y 90au cynnar. Graddiodd hi wedyn i sgriblan ffanstorïau ei hun mewn nodiaduron gyda pheniau sgleiniog, ac wedyn creu cynnwys ar byrddau negeseuon, fforymau teyrnassoedd unigol, Livejournal, ac wedyn AO3. Mae Jess wedi bod yn gwirfoddolu am yr OTW am y chwe mlynedd diwethaf yn y Pwyllgor Polisi a Chamdriniaeth. Wnaeth hi hefyd gweithio am sbel yn y pwyllgor Cefnogaeth (am ddwy flwyddyn) ac yn gwirfoddoli gyda Ffanllên fel staffydd Polisi a Gweini. Tu fás i deyrnas, mae Jess wedi bod yn athrawes am bymtheg mlynedd.
Mae Kirsten Wright yn aelod o’r tîm Cyfarthrebiadau OTW. Ymunodd Kirsten â’r OTW ar awgrymiad un o’i hen athrawon. Yn bresenol, cymedrolir hi’r dudalen Facebŵc yr OTW, a’r cyfrifoedd Livesiwrnal ac Dreamwidth. Yn y gorffenol, cymedrolir hi gyfrif Twitr yr OTW, ac hefyd cyfrifoedd Twitr a Thwmblr Ffanllên. Darganfyddodd Kirsten deyrnas am y tro gyntaf yn ei harddegau ifanc, a ni erioed edrychodd hi yn ôl. Mae teyrnas wedi bod yn athro a ffrind iddi, ac roedd e’n sut y cafodd ei gyrfa yn ymgyrchoedd gwleidyddol yn yr UDA. Mae hi’n enwog am neidio rhwng teyrnasoedd, ond wedi ysgrifennu yn bennaf am The Social Network. Sleisen o fywyd yw ei hoff genre. Yn bendant, mae hi wedi agor mwy nag un ffanstori 200k hir ar ôl hanner nos yn ystod yr wythnos gwaith.
Swyddogion di-lywodraeth
Yuechiang Luo (Trysorydd)