
Mae’r nawfed Dydd Ffangyfryngau Rhyngwladol blynyddol yn agosáu’n gyflym, ac mae gan yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) nifer o weithgareddau i ddod yn fuan i’w adnabod! Gwelwch y rhestr isod i ddysgu am beth rydym yn ei wneud i ddathlu a sut allwch cael eich cynnwys.
1. Her Ffanweithiau
Y mis diwethaf, fe wahoddym ni chi i ymuno â’n her ffanweithiau gyda’r thema Pan Mae Teyrnassoed Yn Gwrthdaro trwy creu trawsgroesiadau ac asiad teyrnas. Gallwch ymuno trwy creu ffanstorïau, ffangelf, ffanfideöau, pencrêd a mwy!
Tagiwch eich creadau #IFD2023 neu #IFDChallenge2023 ar gyfryngau cymdeithasol, neu ddefnyddiwch y tag Dydd Ffangyfryngau Rhyngwladol 2023 ar yr “Archive of Our Own – AO3” (Archif Ein Hun).Rydym yn edrych ymlaen i weld beth rydych yn dyfeisio!
2. Gŵyl Adborth
A oes na trawsgroesiadau ac asiad teyrnasgan eich hoff awdur AO3 rydych yn caru? Rhannwch hi ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r tag #IFD2023 neu #IFDChallenge2023! Ar Chwefror 12eg, byddym hefyd yn creu post ble allwch rhoi awgrymiadau i ffaniau eraill mewn un lle.
3. Her Ffanllên
Nid yw’r dathliadau ar yr AO3 yn unig: mae Ffanllên, wici hanes a diwylliant ffanyddol yr OTW, yn dathlu hefyd! Mae’r her yn rhedeg rhwng Chwefror 13eg–19eg ac yn cynnwys her golygu newydd i’w cwblhau pob dydd. I gymryd rhan, gwelwch y dudalen Her Ffanllên IFD 2023 am fwy o wybodaeth.
4. Gemau a Siat Ffanyddol (yn Saesneg)
Rhwng 21:00 UTC ar Chwefror 14eg (pa amser yw hyn i mi?) a 3:00 UTC ar February 16eg (pa amser yw hyn i mi?), bydd gwirfoddolyddion OTW sy’n siarad Saesneg yn gwesteïo ystaffell siat gyda emau ffanyddol ar gweinydd Discord swyddogol yr OTW. Byddym yn chwarau Trifia, 20 Holiadau, Cystadleuaeth Cylch Geiriau Cân, ac mwy!
Byddym yn postio cysylltiad i’r gweinydd ac amserlen o gweithgareddau ar y 14eg.
Mae’r OTW yn mudiad rhiant ddi-elw o sawl brosiect, yn cynnwys AO3, Ffanllên, Drysau Agored, TWC, ac hefyd Eiriolaeth Gyfreithiol yr OTW. Rydym yn fudiad sy’n cael ei rhedeg gan ffaniau a’i chefnogi gan cyfrannydd, gyda staff sy’n gwbl gwirfoddoladwy. Dysgwch mwy amdanom ar wefan yr OTW. I ddysgu mwy am ein tîm o gyfieithydd gwirfoddoladwy, gwelwch y dudalen Gyfieithu.