
Trwy gydol 2019,gweithiodd tîm ariannol yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) yn y cefndir i wneud yn siwr bod pob un o filiau’r mudiad wedi’i thalu, pob treth wedi’i ffeilio, a chaiff safonau cyffredinol cyfrifyddol wedi’i chyrhaedd. Mae paratoadau ar gyfer datganiadau ariannol 2019 ar eu ffordd!
Wrth i hyn ddigwydd, mae’r tîm hefyd wedi bod yn gweithio’n galed i cyrraedd anghenion 2020 yr OTW, ac yn balch i gyhoeddi i chi cyllideb y flwyddyn hon. (mynediad i taenllen y cyllideb ar gyfer gwybodaeth mwy manwl):
Costiau 2020
“Archive of Our Own” – AO3 (Archif Ein Hun)
- Caiff $11,326.91 (UD) wedi’i gwario allan o gyfanswm $503,414.15 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 29ain o Chwefror, 2020
- Mae 73.9% o gostau’r OTW yn mynd tuag at gynhali’r AO3. Mae hyn yn cynnwys y mwyafrif o’n costau gweinydd – pryniadau newydd ac cyd-leoliad a chynhaliad rhai hen – offer clustfeinio perfformiad gwefan ac amryw o drwyddedau ar gyfer ein systemau, yn cynnwys y rhai isod. (gweld pob cost rhaglen).
- /Mae costau’r AO3 estyniedig y flwyddyn yma hefyd yn cynnwys $100,00 (UD) mewn costau contractyddion ar gyfer gwaith symud chwilio y casgliad AO3 i Elastisearch ac uwchraddio i Rails 6.
- Yn ychwanegol, mae’r costau yn cynnwys yn betrus uwchraddiad a ehangiad sylweddol cynllunadwy i’n gweinyddion, i gost fras o $255,000 (UD). Bydd gweinyddion cronfa ddata yn ehangu gallu yr AO3 i gweini tudalennau a chanlyniadau chwilio i defnyddyddion gyda llai problemau cysylltu. Bydd y gweinyddion hen yn cael eu aildefnyddio fel storfeydd ar gyfer y gweinydd newydd. Mae’n bosib bydd y digwyddiad hon yn gael ei wthio i’r flwyddyn nesaf yn dibynnu ar amgylchiadau wahanol; bydd y cyllideb diweddariedig sy’n cael ei gyhoeddi yn hwyrach y blwyddyn yma gyda fwy o wybodaeth.
- Costau arall yn y cyllideb yn cynnwyc 33,000.00 (UD) ar gyfer contractydd Systemau, a fydd yn gweithio ae nifer o brosiectau’r OTW, yn cynnwys yr AO3.
Ffanllên
- Caiff $533.83 (UD) ei wario allan o $7,018.28 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 29ain o Chwefror, 2020.
- Mae’r rhan fwyaf o gostiau Ffanllên yn glystnogiadau o bryniadau gweinydd, cynhali a chostiau cydleoli, yn ychwanegol i gostiau ailosod parthau wê Ffanllên (gweld pob cost rhaglen).
“Transformative Works and Cultures” – TWC (Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy)
- Caiff $331.00 (UD) ei wario allan o $1,831.00 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 29ain o Chwefror, 2020.
- Mae costiau’r TWC yn cynnwys costiau gweini’r wefan, ac hefyd taliadau storio a chyhoeddi (gweld pob cost rhaglen).
“Open Doors” (Drysau Agored)
- Caiff $139.66 (UD) ei wario allan o $871.83 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 29ain o Chwefror, 2020.
- Mae costiau Drysau Agored y flwyddyn yma yw’r cost gwesteio a chopïo wrth gefn a dal parthau yr archifau a chaiff ei mewnforio gan Drysau Agored (gweld pob cost rhaglen).
“Legal Advocacy” (Eiriolaeth Gyfreithiol)
- Caiff $0.00 (UD) ei wario allan o $5,000 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 29ain o Chwefror, 2020.
- Mae costiau Eiriolaeth Gyfreithiol yn cynnwys taliadau ffeilio ac costau teithio ar gyfer cynhadleddau a gwrandawiadau. (gweld pob cost rhaglen).
Ymestyniad Confensiwn
- Caiff $0.00 (UD) ei wario allan o $500.00 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 29ain o Chwefror, 2020.
- Mae costau yn y cyllideb yn cynnwys $100.00 (UD) ar gyfer printio ehediannau a $400.00 (UD) ar gyfer digwyddiadau Ymestyniad Confensiwn arall ar rhan yr OTW. (gweld pob cost rhaglen).
Codi Arian
- Caiff $2,891.28 (UD) ei wario allan o $59,187.18 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 29ain o Chwefror, 2020.
- Mae ein costiau codi arian yn cynnwys taliadau talu mae ein proseswyr taliadau trydydd parti yn eu gofyn amdan; prynu ac anfon anrhegion diolch; a’r offer a chaiff eu defnyddio i gwesteio cronfeydd data aelodaeth yr OTW, a thracio cyfarthrebiadau gyda cyfrannydd a chyfrannydd posib (gweld pob cost rhaglen)
Gweiniad
- Caiff $6,777.87 (UD) ei wario allan o $53,657.25 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 29ain o Chwefror, 2020.
- Mae costiau gweini yr OTW yn cynnwys gwesteio am ein wefan, nodau masnach, parthau, yswiriant, ffeilio trethu, rheoliad brostiect, cyfarthrebiad ac offer cyfrifo (gweld pob cost rhaglen)
Cyllid 2020
- Mae’r OTW yn cael ei chynhali’n unig gan eich cyfraniadau – diolch yn fawr am eich haelioni!
- Rydym yn derbyn y rhan fwyaf o’n cyfraniadau yn ralïau codi arian Ebrill a Hydref, a ddylai cyfri fel 58% o’n cyllid yn 2020, fel cyfanswm. Rydym yn hefyd yn derbyn cyfraniadau o raglenni roi cyfatebol, breindaliadau, “Amazon Smile” (Gwen Amason) ac “Paypal Giving” (Cynllyn Rhoi Paypal), sy’n darparu rhoddiadau ar rhan rhaglenni fel yr “Humble Bundle” (Bwndel Darostwng) ac “eBay for Giving” (eBay am Gyfrannu). Os hoffwch cefnogi ni wrth prynu ar y wefannau rhain, dewiswch “Organisation for Transformative Works! fel eich elusen dewisiedig!
- Oherwydd eich haelioni yn yr blynyddoedd diwethaf, mae gennym ni swm ariannol iachus yn ein cronfa wrth gefn, a hoffem cadw yna am diwrnod glawiog. Oherwydd hyn, gallem archwilio ffyrdd eraill o gynhyrchu cyllid Mae’r tîm Ariannol wedi gwneud cynnydd yn ei chwiliad ar gyfer dull addas buddsoddi ar gyfer fudiad fach di-elw fel yr OTW ac yn anelu at gosod yn llawn portffolio buddsoddi risg-isel a cheidwadol erbyn diwedd 2020.
- Mae ein cronfa wrth gefn hefyd yn helpu ein bolsteri ni yn y blynyddoedd ble rydym yn cynllunio pryniadau sy’n fwy na sydd arfer. Fel dywedom ni yn gynharach, mae gennym ni gynlluniadau i uwchraddio cynhwysedd gweinyddion, a fydd hyn yn cynyddu ein costau yn sylweddol y flwyddyn yma, Efallai ni fydd rhai o’n costau estyniedig yn digwydd y flwyddyn yma oherwydd cyfyngau gwahanol. I gyfru ar gyfer y ansicrwydd hon, er bod pob cost rydym yn ei rhagweld yn y cyllideb, rydym yn estynu alldyniad o $111,000 (UD) o’n gronfeydd wrth gefn i dalu am y costau llai sicr, Efallai bydd rhaid i’r cyfanswm hon cael ei halldynnu o’r gronfeydd wrth gefn ar system fel sydd angen trwy gydol y flwyddyn. Bydd ein cyllideb diweddiadol, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref, yn cynnwys fwy o wybodaeth ar ba costau bydd yn cael ei rhedeg yn 2020.
- Derbynwyd $213,449.59 (UD) (yn gyfoes tan y 29ain o Chwefror, 2020) a chaiff $356,775.34 (UD) ei rhagfynegi i gael ei derbyn cyn ddiwedd y flwyddyn.
Oes gennych holiadau?
Os mae gennych chi unrhyw holiadau am y cyllideb, cysylltwch â phwyllgor Ariannol. Byddem hefyd yn gwesteio sgwrs agored i ateb unrhyw holiadau sydd gennych chi. Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal trwy gyfrwng Saesneg yn unig. Mae gan y fersiwn Saesneg o’r post hyn fwy o wybodaeth am pryd bydd y sgwrs yn digwydd a sut i ymuno â’r sgwrs.
I lawrlwytho’r cyllideb diweddaraf yr OTW am 2020 mewn ffurf taenlen, dilynwch y cysylltiad yma.
Mae’r OTW yn fudiad rhiant ddi-elw o sawl brosiect, yn cynnwys AO3, Ffanllên, Drysau Agored, TWC, ac hefyd Eiriolaeth Gyfreithiol yr OTW. Rydym yn fudiad sy’n cael ei rhedeg gan ffaniau a’i chefnogi gan cyfrannydd, gyda staff sy’n gwbl gwirfoddoladwy. Dysgwch mwy amdanom ar wefan yr OTW. I ddysgu mwy am ein tîm o gyfieithydd gwirfoddoladwy, gwelwch y dudalen Gyfieithu.