Ariannau OTW: Cyllideb 2021

Trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, parhaodd tîm ariannol yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) ei gwaith i wneud yn siwr bod pob un o filiau’r mudiad wedi’i thalu, pob treth wedi’i ffeilio, a chaiff safonau cyffredinol cyfrifyddol wedi’i chyraedd. Mae paratoadau ar gyfer datganiadau ariannol 2020 yn gyfredol!

Wrth i hyn ddigwydd, mae’r tîm hefyd wedi bod yn gweithio’n galed i gyrraedd anghenion 2021 yr OTW, ac yn falch i gyhoeddi i chi cyllideb y flwyddyn hon. (mynediad i daenllen cyllideb 2021 ar gyfer gwybodaeth mwy manwl):

Costiau 2021

Costiau yn nhrefn prosiectau: Archif Ein Hun: 75.0%. Drysau Agored: 0.2%. Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy: 0.3%. Ffanllên: 2.7%. Eiriolaeth Gyfreithiol: 0.9%. Ymestyniad Confensiwn: 0.1%. Cymhorthdal - Llyfr Creu Ffanfideöau: 0.1%, Gweiniad: 11.2%. Codi Arian: 9.5%.

“Archive of Our Own” – AO3 (Archif Ein Hun)

$26,728.93 (UD) wedi'i gwario; $389,523.46 (UD) ar ôl

  • Caiff $26,728.93 (UD) wedi’i gwario allan o gyfanswm $416,252.39 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 28ain o Chwefror, 2021
  • Mae 75.0% o gostau’r OTW yn mynd tuag at gynhali’r AO3. Mae hyn yn cynnwys y mwyafrif o’n costau gweinydd – pryniadau newydd a chyd-leolid a chynhaliad rhai hen – offer clustfeinio perfformiad gwefan ac amryw o drwyddedau ar gyfer ein systemau, yn cynnwys y rhai isod. (gweld pob cost rhaglen).
  • Mae costau’r AO3 estynedig y flwyddyn yma hefyd yn cynnwys $150,000 (UD) mewn costau contractyddion i orffen gwaith symud chwilio’r casgliad AO3 i Elasticsearch, uwchraddio’r AO3 i Rails 6.1, ac i wneud archwiliad allanol o wefan y AO3 i ddarganfod unrhyw wallau diogelwch mae angen trwsio.
  • Yn ychwanegol, mae’r costau yn cynnwys $203,000 (UD) cynllunadwy ar gyfer ehangiad cynhwysedd gweinydd i ddelio â thyfiant trafnidiaeth wefan disgwyliedig trwy gydol y flwyddyn. Mae’n bosib bydd y digwyddiad hwn yn gael ei wthio i’r flwyddyn nesaf yn dibynnu ar amgylchiadau gwahanol; bydd y gyllideb diweddariedig sy’n cael ei gyhoeddi yn hwyrach y flwyddyn yma gyda mwy o wybodaeth.

Ffanllên

$1,017.54 (UD) wedi'i wario; $14,234.12 (UD) ar ôl

  • Caiff $1,017.54 (UD) ei wario allan o $15,251.66 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 28ain o Chwefror, 2021.
  • Costiau Ffanllên yw ei rhaniad o galedwedd gweinydd a ddyrennir, cynhali a chostiau cydleoli. (gweld pob cost rhaglen).

“Transformative Works and Cultures – TWC” (Diwylliannau a Chyfryngau Trawsffurfiadwy)

$339.00 (UD) wedi'i wario; $1,492.00 (UD) ar ôl

  • Caiff $331.00 (UD) ei wario allan o $1,831.00 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 28ain o Chwefror, 2021.
  • Mae costiau’r TWC yn cynnwys costiau gweini’r wefan, a hefyd taliadau storio a chyhoeddi (gweld pob cost rhaglen).

“Open Doors” (Drysau Agored)

$128.88 (UD) wedi'i wario; $735.29 (UD) ar ôl

  • Caiff $128.88 (UD) ei wario allan o $864.17 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 28ain o Chwefror, 2021.
  • Costiau Drysau Agored yw’r gost gwesteion copïo wrth gefn, a dal parthau’r archifau a chaiff ei mewnforio. (gweld pob cost rhaglen).

“Legal Advocacy” (Eiriolaeth Gyfreithiol)

$0.00 (UD) wedi'i wario; $5,000 (UD) ar ôl

  • Caiff $0.00 (UD) ei wario allan o $5,000.00 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 28ain o Chwefror, 2021.
  • Mae costiau Eiriolaeth Gyfreithiol yn cynnwys taliadau ffeilio a chofrestru ar gyfer cynhadleddau a gwrandawiadau. (gweld pob cost rhaglen).

Ymestyniad Confensiwn

$0.00 (UD) wedi'i wario; $500.00 (UD) ar ôl

  • Caiff $0.00 (UD) ei wario allan o $500.00 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 28ain o Chwefror, 2021.
  • Mae costau yn y gyllideb yn cynnwys $100.00 (UD) ar gyfer printio ehediannau a $400.00 (UD) ar gyfer digwyddiadau Ymestyniad Confensiwn arall ar ran yr OTW. (gweld pob cost rhaglen).

Cymhorthdal ar gyfer llyfr F. Coppa ar Hanes Creu Ffanfideöau

$0.00 (UD) wedi’i wario; $598.32 (UD) ar ôl

  • Caiff $0.00 (UD) ei wario allan o $598.32 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 28ain o Chwefror, 2021
  • Mae’r arian o’r cymhorthdal hon yn dod o gyfraniad a chaiff ei rhoi i’r OTW yn 2020 am y pwrpas penodol o dalu am gostau yn gysylltiedig i gynhyrchiad llyfr Francesca Coppaar hanes creu ffanfideöau. Bydd brifysgol Michigan yn cyhoeddi’r llyfr a gweini’r ffanfideöau, wrth hefyd yn ei wneud yn hygyrcgol i bawb yn rhad ac am ddim ar-lein.
  • Mae costau cyllidebadwy ar gyfer darllen proflenni a chyhoeddiad (gweld pob cost rhaglen).

Codi Arian

$5,657.33 (UD) wedi'i wario; $46,906.67 (UD) ar ôl

  • Caiff $5,657.33 (UD) ei wario allan o $52,564.00 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 28ain o Chwefror, 2021.
  • Mae ein costiau codi arian yn cynnwys taliadau talu mae ein proseswyr taliadau trydydd parti yn eu gofyn amdan; prynu ac anfon anrhegion diolch; a’r offer a chaiff eu defnyddio i gwestio cronfeydd data aelodaeth yr OTW, a thracio cyfathrebiadau gyda chyfrannydd a chyfrannydd posib (gweld pob cost rhaglen)

Gweiniad

$3,154.33 (UD) wedi'i wario; $58,757.48 (UD) ar ôl

  • Caiff $3,154.33 (UD) ei wario allan o $61,911.81 (UD) y flwyddyn yma, yn gyfoes tan y 28ain o Chwefror, 2021.
  • Mae costiau gweini’r OTW yn cynnwys gwesteio am ein gwefan, nodau masnach, parthau, yswiriant, ffeilio trethu, rheoliad brosiect, cyfathrebiad ac offer cyfrifo (gweld pob cost rhaglen)

Cyllid 2021

Cyllid yr OTW: Cyfraniadau o rali Ebrill: 13.9%, Cyfraniadau o rali Hydref: 20.8%. Cyfraniadau tu fas i ralïau: 55.4%. Cyfraniadau o raglenni roi cyfatebol: 9.7%. Cyllid buddiannau: 0.1%. Breindaliadau: 0.1% Other Income: <0.1%

  • Mae’r OTW yn cael ei chynhali’n unig gan eich cyfraniadau – diolch yn fawr am eich haelioni!
  • Rydym yn derbyn y rhan ystyrlon o’n cyfraniadau yn ralïau codi arian Ebrill a Hydref, a ddylai cyfri fel 35% o’n cyllid yn 2021. Rydym yn hefyd yn derbyn cyfraniadau o raglenni rhoi cyfatebol, breindaliadau, “Amazon Smile” (Gwen Amason) ac “Paypal Giving” (Cynllyn Rhoi Paypal), sy’n darparu rhoddion ar ran rhaglenni fel yr “Humble Bundle” (Bwndel Darostwng) ac “eBay for Charity” (eBay am Elusennau). Os hoffwch gefnogi ni wrth brynu ar y gwefannau hyn, dewiswch “Organisation for Transformative Works” fel eich elusen ddewisedig!
  • Oherwydd eich haelioni yn y blynyddoedd diwethaf, mae gennym ni swm ariannol iachus yn ein cronfa wrth gefn gallem ddefnyddio i dalu am bryniadau sy’n fwy na sydd arfer. Fel dywedom ni yn gynharach, rydym yn cynllunio i barhau i uwchraddio cynhwysedd gweinyddion, a fydd hyn yn cynyddu ein costau caledwedd gweinydd a gweini’r gweinydd. Mae tyfiant yr AO3 a phrosiectau eraill yr OTW hefyd angen fwy o wirfoddolyddion a chymorth gweiniad, felly mae taenllen y gyllideb estyn alldyniad o $195,000.00 (UD) o’n gronfeydd wrth gefn i dalu am y costau sy’n fwy na’n cyllid y flwyddyn yma. Bydd yn debygol i’r cyfanswm hon cael ei halldynnu o’r cronfeydd wrth gefn fel sydd angen trwy gydol y flwyddyn.
  • Derbynwyd $55,553.19 (UD) (yn gyfoes tan y 28ain o Chwefror, 2021) a chaiff $360,575.00 (UD) ei rhagfynegi i gael ei dderbyn cyn diwedd y flwyddyn.

$55,553.19 (UD) wedi'i cyfrannu; $305,021.81 ar ôl

Oes gennych holiadau?

Os mae gennych chi unrhyw holiadau am y gyllideb, cysylltwch â phwyllgor Ariannol. Byddem hefyd yn gwesteio sgwrs agored i ateb unrhyw holiadau sydd gennych chi. Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal trwy gyfrwng Saesneg yn unig. Mae gan y fersiwn Saesneg o’r post hwn fwy o wybodaeth am bryd bydd y sgwrs yn digwydd a sut i ymuno â’r sgwrs.

I lawrlwytho’r cyllideb ddiweddaraf yr OTW am 2021 mewn ffurf taenlen, dilynwch y cysylltiad yma.


Mae’r OTW yn mudiad rhiant ddi-elw o sawl brosiect, yn cynnwys AO3, Ffanllên, Drysau Agored, TWC, ac hefyd Eiriolaeth Gyfreithiol yr OTW. Rydym yn fudiad sy’n cael ei rhedeg gan ffaniau a’i chefnogi gan cyfrannydd, gyda staff sy’n gwbl gwirfoddoladwy. Dysgwch mwy amdanom ar wefan yr OTW. I ddysgu mwy am ein tîm o gyfieithydd gwirfoddoladwy, gwelwch y dudalen Gyfieithu.

Report

Comments are closed.