Mae’r ”Archive of Our Own – AO3” (Archif Ein Hun) yn safle gwesteio anmasnachol a di-elw am ffangyfryngau trawsffurfiadwy, fel ffanstorïau, ffangelf, ffanfideöau a ffanstorïau ar lafar. Caiff yr AO3 ei chreu a’i rhedeg yn uniongyrchol gan ffaniau, a mae hi’n le ble all creadigrwydd ffanyddol buddu o eiriolaeth yr OTW (Mudiad Cyfryngau Trawsffurfiadwy) o fewn ddadlau am gyfreithioldeb a gwerth cymynedol cyfryngau trawsffurfiadwy.
Gwnaeth yr AO3 fynd i fewn i feta agored yn Nhachwedd 2009, a gwnaeth hi gyrraedd 1 miliwn o ffanweithiau uwchlwythadwy yn Chwefror 2014. Yng Ngorffenaf 2018 wnaeth yr AO3 pasio 4 miliwn o weithiau uwchlwythadwy. Yn 2019, caiff yr archif ei defnyddio gan dros 1.5 miliwn o defnyddydd cofrestadwy, ac mae gen yr archif ffangyfryngau o fewn dros 30,000 o deyrnassoedd ffanyddol.
Caiff yr AO3 ei hadeiladu a’i dylunio gan wirfoddolydd o deyrnassoedd. Gwnaeth llawer o ein gwirfoddolydd darganfod sgiliau codio, dylunio a dogfenni cwbl newydd trwy eu gwaith ar y brosiect. Mae’r meddalwedd cod agored yn cael ei gwesteio yng NgitHub. Mae gweinyddau’r OTW yn cael ei chynnal yn gwbl gan gyfranniadau i’r OTW. Nid yw defnyddydd yn talu, ac nid oes hysbysiadau ar yr wefan.
Mae rhai nodweddion nodiedig yr AO3 yn cynnwys:
- lawrlwythiadau un-clic o ffanweithiau mewn sawl fformat (ePub, HTML, Mobi, PDF)
- system tagio rhydd sy’n gadael i greüydd ffanweithiau creu tagiau eu hun ar gyfer dosbarthu
- systemau sylwi, canmoli a thudalnodi
- dewisiadau defnyddydd sy’n gadael i nhw gweld ffanweithiau penod-wrth-benod neu’n llawn, ac i gysylltu ffanweithiau o fewn cyfres.
- lle gwesteio i gasgliadau ac heriau ffanyddol
- system mewnforio o ffanweithiau a chaiff ei phostio rhywle arall.
Gall fwy o fanylion amdano’r brosiect cael ei ddarganfod yn holiadau cyffredin yr AO3, fforddfap yr AO3, a phystiau newyddion yr AO3. Mae newyddion o’r AO3 hefyd ar gael trwy Twitr a Thwmblr.